Ffilmiau Byrion Peter Greenaway
Am ryw rheswm, mae’n well ‘da fi ffilmiau byrion cynnar Peter Greenaway na ffilmiau cyflawn ei adeg “aeddfed”. Dw i’n colli amynedd gyda ei obsesiynau dros cyfnod hir, ond mewn ffilm 5 munud, maent yn emau bach perffaith.
Rwy’n falch o weld bod rhai wedi’i postio ar YouTube, ond mae rhaid eu rhaid nhw ar DVD ar sgrîn mwy eich teledu… o leia.
Dyma un o’m fferfrynnau.
Windows [1974, 3 munud a hanner]
Sancteiddrwydd ac Anffyddiaeth
Dw i newydd orffen llyfr Richard Dawkins, The Ancestor’s Tale: A Pilgrimage to the Dawn of Life, a dyma paragraff o’r dudalen ola:
‘Pilgrimage’ implies piety and reverence. I have not had occasion here to mention my impatience with traditional piety, and my disdain for reverence where the object is anything supernatural. But I make no secret of them. It is not because I wish to limit or circumscribe reverence; not because I want to reduce or downgrade the true reverence with which we are moved to celebrate the universe, once we understand it properly. ‘On the contrary’ would be an understatement. My objection to supernatural beliefs is precisely that they miserably fail to do justice to the sublime grandeur of the real world. They represent a narrowing-down from reality, an impoverishment of what the real world has to offer.
Byddai dweud “na allwn i ddweud hynny yn well fy hunan” llawn cymaint o understatement.
Dw i’n siwr mod i wedi crybwyll hyn o’r blaen, efallai ar maes-e os nad ar y blog, ond dw i wedi tueddu osgoi siarad am grefydd ar y we. Rhan o’r rheswm yw, neu oedd, mod i wedi dod i nabod cymaint o bobl o ffydd trwy’r we Gymraeg, a do’n i ddim am ddweud pethau byddai’n eu hypseto. Rhan arall yw nad oedd fy nheimladau fy hunan yn ddigon cryf - hynny yw, er mod i ddim yn credu mewn duw, do’n i ddim yn teimlo bod hyn yn fusnes neb ond fy hunan.
Ond mae sawl peth wedi newid. Am un, dw i wedi gwylio fy nhad marw o ganser yn 62 oed. Cafodd e ei hun yr un profiad o golli tad yn ara deg, ond yn 20 mlynedd yn gynt yn ei achos e; dyma oedd y peth oedd e’n honni oedd yn gyfrifol am golli ei ffydd yntau. Yn fy achos i doedd dim ffydd i’w cholli, dim ond yr amheuaeth am fynegi fy anffyddiaeth.
Yn ail, dw i’n gweld yr ymdrechion diweddar i dod â chrefydd mewn i’n bywyd gwleidyddol, boed gan Gristnogion, Mwslemiaid neu bwy ag yn beth afiach. Mae’r UDA yn fishi troi yn theocratiaeth; dw i ddim eisiau byw mewn gwlad gyda Duw ar ei hochr.
Ac yn drydydd, dydy cadw yn dawel am rywbeth mor bwysig â bodolaeth Duw er mwyn peidio ypseto dy ffrindiau ddim yn iach iawn. Os taw Cristnogion go iawn ydyn nhw, byddent yn fy maddau
Fel sawl un, dw i ddim yn hollol hapus gyda’r enw “anffyddiwr”, gan ei fod yn awgrymu diffyg rhywbeth dw i ddim yn gweld ei eisiau. Mae hyn yn fwy amlwg yn y Gymraeg, o leia i berson ail iaith fel finnau. Fel arbrofiad meddwl, dychmygwch defnyddio’r gair “anrhesymwr” i ddisgrifio person crefyddol. Fyddai fe ddim yn deg, na fyddai? Ond mae’n hollol iawn y ffordd hyn, mae’n debyg. Er hynny, dyw’r gair Bright ddim yn un dw i’n teimlo fel mabwysadwy hyd yn hyn.
I gyd dw i am wneud yw “dod ma’s” fel rhywun sy ddim yn credu mewn bodolaeth unrhywbeth uwchnaturiol, gan gynnwys Duw, angelion, ysbrydion, coblynod, sêr-ddewiniaeth, feng shui, dreamcatchers, traed cwningod na hyd yn oed Pastatarianism. Dw i ddim yn gweld eisiau cymryd y Her Gableddus, ond fel y bobl yna does dim ofn arna i.
Cartwniau canoloesol
Archif cartwniau cynnar sy’n mynd yn ôl at y flwyddyn 300. Ddigon hen?
Ffeindiwyd hyn trwy Metafilter lle mae rhywun wedi cysylltu â’r cartwn am gaws ar dost o 1913.
Albym y Dydd #5 - Magma - K.A.
Ahh, Magma. Ble i ddechrau gyda’r band hwn? Wel, maen nhw’n dod o Ffrainc, sy ddim yn ddechreuad da fel arfer (sori, Sophie). Yn ail, maen nhw’n canu mewn iaith wneud o’r enw Kobaïan sy’n dod o blaned arall ac sydd â mwy o ümläüts na wardrôb Lemmy. Mae bob trac o leia chwarter awr o hyd, llawn llafarganu hysterig sy’n adeiladu at uchafbwyntiau mwyaf intense dw i wedi clywed erioed.
Ac mae Steve Davis yn eu caru.
Dim ond yn y ddwy flynedd diwetha ‘ma dw i wedi bod yn gwrando ar Magma, ac mae rhaid cyfadde mod i ddim yn ddigon hardcore i eistedd trwy mwy nag un o’u halbyms ar y tro, ond dw i newydd gael gafael yn eu CD comeback Köhntarkösz Anteria o 2002, ac mae’n hollol, hollol wych. Steil Magma clasurol (ar ôl 20 mlynedd yn anialwch jazz i arweinydd y band, Christian Vander) ond am y tro cyntaf, gyda cynhyrchiad sy ddim yn cuddio un o gryfderau mwya’r band, drymio Vander ei hun, dan mwd Kobaïaidd. Cerddoriaeth grefyddol, gyda’r fantais o wybod ei bod yn sôn am fyd ffantasi.
Wna i ddim postio sampleri o hyn, dim ond tri trac hir sydd, ond cewch chi flas ar eu tudalen MySpace neu ar y Magma Web Radio.
Adolygiadau Ground and Sky a Pitchfork. Erthygl a chyfweliad “byd Magma” ar Perfect Sound Forever.

Magma. Allëhlüïa!
Paid Sôn
Saesneg India - cyfres Flickr o ymadroddiadau tafodieithol yn Saesneg yr India, wedi’u peintio ar arwyddion traddodiadol.
[Diolch i'r Fôr-forwyn Enigmatig.]
Albym y Dydd #4 - Ougenweide - Ousflug
Newydd ddod ar draws Ougenweide gan Ousflug, band prog-gwerinaidd o’r Almaen. Recordiwyd yr albym yn 1979, ond allai fe ddod o unrhyw flwyddyn nôl i ‘68. Mae’r offer i gyd yn draddodiadol, gyda’r prif tonau yn cael eu cario gan naill ai’r ffliwt/pibgorn neu (yn anarferol, braidd) y glockenspiel a’r seiloffon. Mae’r geiriau i gyd yn Almaeneg.
Os fuoch chi yn y Dyn Gwyrdd y llynedd ac yn ddigon ffodus i weld Circulus a’u mwynhau, mi fyddi di wrth dy fodd gyda hwn.
Dyma un trac - mae’r holl albym (wedi’i rwygo o’r feinyl) ar gael ar flog Kraut-team:
Ousflog - Basse Danse La Gatta
O.N. Mi o’n nhw’n band pert iawn, hefyd.
Yn fy iaith fy hun, dw i’n ddeallus
Darn sain gan Dragan Todorovic am y profid o fod heb dy iaith dy hun mewn cydestun ieithyddol newydd. Profiad dw i mor gyfarwydd â fe dw i’n anghofio weithiau fy mod i ynddo o hyd.
It was painful to realize that in my language I was smart, but I sounded stupid in English. Example: while walking with my Canadian friend one day by a church, he started talking about the architecture of that particular building, and while I wanted to say a few things about how I liked the Gothic details on the arch at the entrance, and how I admired the intelligent choice of stones, all I could squeeze out was, “Yeah, it’s cool”.
[Diolch i Het yr Iaith.]
Kurt Vonnegut, fel ‘na mae
Drist iawn glywed y bore bod Kurt Vonnegut wedi marw, yn 84 oed. Vonnegut oedd un o’r awduron Americanaidd des i ar eu traws yn nyddiau’r coleg, a roddodd i fi obaith mewn adeg o’n i wedi colli fydd Cristnogol fy mhlentyndod, ond heb ffeindio dim byd i lenwi’r “twll”. Y rhai a helpodd i mi ddarganfod nag oes ‘na “dwll”.
“Hello, babies. Welcome to Earth. It’s hot in the summer and cold in the winter. It’s round and wet and crowded. At the outside, babies, you’ve got about a hundred years here. There’s only one rule that I know of, babies — ‘God damn it, you’ve got to be kind.’ ”
