Map Cymru yn y “Dead Zone”

Tipyn bach o ddim byd, ond o’n i’n gwylio’r ffilm Cronenberg The Dead Zone y bore ’ma (ffilm wych do’n i ddim wedi gweld ers blynydde – mae Nic yn dweud sieco fe ma’s) pan welais i rywbeth od ar y wal yn nhŷ Christopher Walken:

Map Cymru yn y ffilm "The Dead Zone"

Os nad ydy hynny yn ddigon sgêri, mae Walken am fod yn Arlwydd yr UDA yn 2008.

5 thoughts on “Map Cymru yn y “Dead Zone”

  1. Yep, cofio gweld hwnna sbel yn ol, map ar wal y grisiau. Wnaeth fy ymchwil i ar y pryd ddod i’r casgliad fod un o’r set dressers yn Gymro. (dresser Cymreig fel petai :)

  2. Yn ei nofelau mae Steven King weuthiau yn rhoi gwreiddiau Cymreig i gymeriadau ym Maine. Efallai mae ‘na rhyw gysylltiad Cymreig rhwng Cymru a Bangor, Maine, ei dref ei hun a lleoliad pwysig yn ei nofelau.

  3. Pwynt da, do’n i ddim wedi meddwl am hynny. Sbel ers i mi ddarllen King, a bod yn onest.

    Cymru mewn ffilmie annisgwyl, #2: gwylio Identificazione di una donna gan Michaelangelo Antonioni. Dau gymeriad yn y gwely, ac mae’r ferch yn dweud ei bod hi wedi “dechrau’n hwyr” yn eu gyrfa cariadus: “Es i i’r coleg yn Lloegr [sic]; coleg bach yng Nghymru, Atlantic College.”

    Sa i wedi gwylio gweddill y ffilm eto, ond mae’n debyg wnaeth M.A. ffilmio golygfeydd yn y coleg ar bwys Y Barri ‘na.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi รข *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>