Tipyn o waith i’w wneud ar y cyfrifiadur heddi, felly edrych am rywbeth alla i chwarae yn y cefndir, sy ddim yn debyg i dynnu fy sylw gormod. Mae gen i lot fawr o albyms prog Ewropiaidd, yn enwedig o’r Eidal a’r Almaen, sy ddim wedi cael chwarae teg gen i hyd yn oed, felly dyma fi droi at rhai o reiny. Wedi creu rhestr chwarae o bob record prog o 1973 sy ’da fi, gawn ni weld faint ohonyn nhw dw i’n mynd trwyddo heddi. Bosib bydd y cofnod yma yn tyfu trwy’r dydd. Bosib hefyd y bydda i wedi cael llond bol o gopiwyr Genesis a Gentle Giant erbyn amser cinio.
Yr un cyntaf yw enghraifft clasurol o’r syndrom yna: albym cyntaf gan Acqua Fragile, progwyr o’r Eidal. Mae dylanwad Genesis mor drwm ar y band fyddai rhywun sy ddim yn gyfarwydd iawn â dyddiau cynnar Gabriel a’i griw yn meddwl taw nhw oedd hyn ar y gwrandawiad cyntaf. Dim byd yn bod ar hynny, dw i’n hoffi Genesis cymaint â’r hipi nesa, ond unwaith ti’n dechrau gwrando bach yn fwy gofalus, ti’n clywed band sy ddim yn canu yn eu hiaith gyntaf, ac sy heb lawer o syniadau gwreiddiol. Rhannau bach chwaraeus Gentle Giant-aidd, llafurganu Jon Anderson-aidd. Mae’n ddigon dymunol, ond dim byd doedd bandiau Lloegr ddim wedi’iu wneud yn 1971.
[Gol.] Mae’n dechrau tyfu arna i. Falla hwn bydd Albym y Dydd, wedi’r cwbl.