We Are a Musical Nation – post ffantastic gan Sanddef ar y cyd-flog They All Speak English (sy wedi bod yn dawel yn diweddar; mea culpa, ymysg eraill).
Mae Sanddef wedi casglu fideos YouTube gan y goreuon o’r Sîn “Roc” Gymraeg, sy’n cynnwys llwyth o stwff dw i wedi colli. Dw i’n nabod y gân isod gan Radio Luxemburg, er enghraifft, ond dw i erioed wedi gweld y fideo gwych gan fy mod i bron iawn yn gwylio S4C. Dim byd yn erbyn y teledu ei hunan, jyst bod y signal digidol yma mor fregus, prin iawn mae’n werth ei wylio.
Ta beth, dyma fe, a diolch i Sanddef am atgyfodi’r blog. Rhaid i fi feddwl am rywbeth i’w roi arno nawr…
Wel, o’n i’n postio rhai mp3au Cymraeg sydd gen i ar fy mlog Sbaeneg, ac wrth neud hynny meddyliais am edrych i weld os oedd ‘na rywbeth ar YouTube, a dyna ni. Wedyn ar gyfer They All Speak English fe wnes i gyfyngu dewis y fideos i’r rhai o safon da (yn anffodus roedd yna naid bychan yn fideo “Morgi Mawr Gwyn” gan Mr Huw, felly dydy o ddim yn ymddangos yno). Os oes yna gerddorion yn darllen hwn, dylech chi feddwl am uwchlwytho fideo ar YouTube! Ac hefyd y rhai ar myspace: dylech chi rhoi caniatad i bobl lawrlwytho o leiaf un gân jyst er mwyn hyrwyddo eich cerddoriaeth eich hun (neu fel yn yr achos yma, er mwyn galluogi i bobl eraill wneud hynny ar eich cyfer).