Albym y Dydd #1 – Six Organs of Admittance – Dark Noontide [2002]

Dych chi’n cofio bod yn ifanc, jyst dechrau mas ar y daith i gerddoriaeth, pan oedd arian yn brin a recordiau yn brinach byth? Dw i’n cofio’r LP cyntaf i mi brynu, a’r ail, a dw i’n cofio pan oedd 10 albym ’da fi am y tro cyntaf. Dw i’n cofio hefyd oedd rhaid i ni’r bois rhannu’r bandiau roc rhyngddon ni er mwyn wneud yn siwr bod neb yn prynu albym oedd ’da rhywun arall – albym allet ti fod wedi’i dapio, ac arbed y £3.50, neu beth bynnag, i brynu albym doedd neb arall wedi clywed. Doedd dim albyms Zeppelin ’da fi, gan taw prynu popeth gan Sabbath oedd fy rhan i.

Ddôs wêr ddy deis, eh?

Ond un peth am y prinder yma, oedd bob record yn sbeshial, ac o’t ti’n fwy tebyg i dreulio tipyn o amser dod i’w nabod. Dw i’n cofio’n glir prynu’r clasur Genesis Foxtrot (sy ddim ar gael ar CD newydd? be’ sy’n mynd ymlân â’r byd?) ac eistedd ar lawr fy stafell wely gyda’r clustffoniau yn sownd ar fy mhen tan bod bob gair o Supper’s Ready yn sâff ’da fi, a bob manylyn y clawr wedi’i serio yn fy ngho’. Roedd siwr o fod bron 30 o albyms ’da fi erbyn hynny, a phob gair o bob cân ar bob un ohonyn nhw dal gyda fi o’r galon.

Mae gyda fi gwerth 36 diwrnod o gerddoriaeth yn iTunes, a gwerth 16.2 diwrnod o ganeuon dw i heb wrando arnyn nhw’r unwaith.

Felly, fel arbrofiad, dw i am ddewis un albym bob dydd (neu ddau) a gwrando ar hwnna a dim byd arall am sbel.

Yr un cyntaf i gael fy holl sylw, er gwell neu er gwaeth, yw Dark Noontide gan Six Organs of Admittance.

Wel, do’n i ddim yn mynd i ail-ddechrau gydag Olivia Newton-John, nag o’n i?

Mae’r iPod wedi’i weipio, a’r un record yma wedi ei lanlwytho iddo, felly fory hwn fydd fy nhgyd-deithiwr ar y ffordd i’r gwaith, hwn bydd gyda fi wrth gerdded adre, a hwn bydd gyda fi ar y ffordd i’r dafarn gyda’r nos i wynebu bois y bwrdd poker.

A tybed, mewn 25 mlynedd, a fydda i’n gallu canu Spirits Abandoned fel ydw i’n gallu canu Supper’s Ready, ac hyd yn oed…

Gawn ni weld…

[Gol.] Ychwanegaf MP3 i bob cofnod o’r fath, tra bod yr arbrofiad yn para.

Six Organs of Admittance – Awaken (MP3, 2MB)

3 thoughts on “Albym y Dydd #1 – Six Organs of Admittance – Dark Noontide [2002]

  1. Dwinna r’un fath. Ma gin inna’ 52 can dwi rioed wedi’w glywed ar i-tunes a llawer iawn mwy dwi mond wedi’w glywed unwaith neu ddwy.

  2. Gweithiodd y peth yn well nag o’n i disgwyl. Mae rhaid mod i wedi gwrando ar yr albym ‘na rhyw 6 gwaith ddoe, a ffeindiais i fy hunan hymiam tôn oddi wrtho y bore ‘ma yn y cawod.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>