Monthly Archives: Mawrth 2007

Swtra’r Arth Mwglyd

Fersiwn dyb-aidd Pwyleg o gerdd Gary Snyder Smokey the Bear Sutra. Peth o Gil Scott-Heron yma, ond yn fwy byth, fersiwn Llwybr Llaethog ac Ifor ap Glyn o’r clasur The Revolution Will Not Be Televised. [Gol.] Hefyd, High Peak Haikus, portread o Synder yn y Guardian yn 2005. Collais i hwn tan nawr.
Posted in Heb Gategori | Tagged , | 1 Comment

Map Cymru yn y “Dead Zone”

Tipyn bach o ddim byd, ond o’n i’n gwylio’r ffilm Cronenberg The Dead Zone y bore ’ma (ffilm wych do’n i ddim wedi gweld ers blynydde – mae Nic yn dweud sieco fe ma’s) pan welais i rywbeth od ar y wal yn nhŷ Christopher Walken: Os nad ydy hynny yn ddigon sgêri, mae Walken am [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , , , , , , | 5 Comments

Mae’r pigion yn eu hôl

Os edrycha di i’r dde (fy chwith i), mi weli di restr o ddolenni. Wnes i dreulio rhyw awr chwarae gyda sgriptiau php ac yn y blaen i greu’r fath rhestr, cyn darganfod bod deli.icio.us yn cynnig y wasaneth erbyn hyn. Dw i’n edrych nawr am ffordd i ychwanegu rhywbeth tebyg i maes-e.
Posted in Heb Gategori | Tagged , | 2 Comments

Albym[s] y Dydd #3 – prog 1973

Tipyn o waith i’w wneud ar y cyfrifiadur heddi, felly edrych am rywbeth alla i chwarae yn y cefndir, sy ddim yn debyg i dynnu fy sylw gormod. Mae gen i lot fawr o albyms prog Ewropiaidd, yn enwedig o’r Eidal a’r Almaen, sy ddim wedi cael chwarae teg gen i hyd yn oed, felly [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , | Leave a comment

Cofnod wedi’i ddileu

Gan nad yw’n bosibl i gael unrhyw drafodaeth call gyda Martin Llewelyn Williams, does dim dewis ’da fi ond ei wahardd o’r blog hefyd. Fydd dim sylwadau ar y cofnod hwn, a bydd unrhyw sylwadau eraill ganddo yn cael eu dileu yn syth. Bydd copiau o’i negeseuon ebost yn cael eu harchifo, ond fydd dim [...]
Posted in Eraill | Comments closed

Ar Mark Kermode mae’r bai

Gwrando ar bodlediad Mark Kermode, a chan bod dim byd well ’da fi wneud gyda fy nwylo (ahem! taw yn y cefn!), hwpo ymadroddion ar hap o’r darllediad mewn i Google i weld beth sy’n dod lan. Ti rili ddim moyn dy bartner cerdded mewn i’r stafell pan ti’n Gwglo oiled men in their pants, ond [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | 2 Comments

Albym y Dydd #2 – Jon Poole – What’s the Ugliest Part Of Your Body? [1994]

Gweithiodd yr arbrofiad o gadw at un albym trwy’r dydd yn well nag o’n i’n disgwyl, felly dw i am gario ymlaen, gan ychwanegu un albym ar y tro i’r iPod. Daeth dau CD yn y post, un yn ddetholiad o draciau gan Cardiacs a fydd yn Albym y Dydd yn y dyfodol agos, a’r llall [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged | Leave a comment

Gwlad y Gân

We Are a Musical Nation – post ffantastic gan Sanddef ar y cyd-flog They All Speak English (sy wedi bod yn dawel yn diweddar; mea culpa, ymysg eraill). Mae Sanddef wedi casglu fideos YouTube gan y goreuon o’r Sîn “Roc” Gymraeg, sy’n cynnwys llwyth o stwff dw i wedi colli. Dw i’n nabod y gân isod [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , , | 1 Comment

Heddwch Ecstatig

Fideos Heddwch Ecstatig, sy’n cynnwys sawl peth gan Sunburned Hand of the Man. Wnes i lwyddo colli’r band ’ma yn y Dyn Gwyrdd y llynedd, ond gwelais i’r gitarydd a’r drymwr wneud rhywbeth rong dros ffilm Ira Cohen.
Posted in Heb Gategori | Tagged , | Leave a comment

Albym y Dydd #1 – Six Organs of Admittance – Dark Noontide [2002]

Dych chi’n cofio bod yn ifanc, jyst dechrau mas ar y daith i gerddoriaeth, pan oedd arian yn brin a recordiau yn brinach byth? Dw i’n cofio’r LP cyntaf i mi brynu, a’r ail, a dw i’n cofio pan oedd 10 albym ’da fi am y tro cyntaf. Dw i’n cofio hefyd oedd rhaid i [...]
Posted in Heb Gategori | Tagged , | 3 Comments
  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar