Dan Ddylanwad Drwg

Fel dw i newydd gyfadde ar y maes, dw i nôl ar fy nhethe Warcraft, ac hyn ers rhai wythnosau bellach (sy’n esbonio pam mae pethe wedi bod mor dawel fan hyn). Ond dw i wedi cyrraedd rhyw bwynt diflas yn y gêm lle dw i ddim yn siwr mod i am gario ymlaen.

Dw i’n 40 oed, neno’r tad.

Mae fy hen frwdfrydedd am ffilmiau America’r 70au cynnar wedi’i ail-danio heno gan ffilm des i ar ei thraws ar hap ar Amazon, sef Decade Under the Influence. Ffilm talking heads ydyw, lle mae’r pennau ar ysgwyddau rhai o gyfarwyddwyr mwya’r adeg. Dim byd arbennig iawn, dim llawer sy’n newydd ta beth, ond mae wastad yn braf gweld clipiau o dy hoff ffilmiau mewn un lle – a thrwy eu gweld, sylweddoli eto pa mor ffrwythlon oedd yr adeg honno.

Braf hefyd i sylweddoli bod cymaint o ffilmiau yr adeg dw i heb eu gweld eto, felly esgus perffaith i lwytho lan fy rhestr Amazon â pherlau colledig fel Hi Mom! a Panic in Needle Park.

Wedi bod yn gweithio fy ffordd trwyddo ffilmiau Robert Bresson, hoff gyfarwyddwr Sant Andrei. Bunuel, hefyd – mae Belle de Jour ’da fi lawr stâr i wylio heno.

Ond cyn i mi ddechrau swnio fel Mr Pretentious ffilm snob, y ffilmiau dw i wedi mwynhau’r fwya yn diweddar yw ddwy ffilm John Hughes ces i i’m penblwydd gan fy ffrindiau Caerdydd, sef The Breakfast Club a Ferris Bueller’s Day Off. Mae rhai ffilmiau ti eisiau gweld ar ôl noson dawnsio yn y Pentre Arms tan 4 o’r gloch y bore, a dydy Andrey Rublyov ddim yn un ohonyn nhw.

5 thoughts on “Dan Ddylanwad Drwg

  1. Ro’n i bron a paharablu mlaen am Belle de Jour pan ddarllenais i’r gofnod hon tro cynta, ond penderfynais nad oedd hi werth sbwylio unrhyw ddarn i ti.

    Dim ond tua mis yn ôl welais i hi. Am ffilm.

    Mae Deneuve yn perfformio’n arbennig, gan roi’r argraff nad wyt yn gywbod beth sydd am ddod nesa. Mae’r tensiwn rhywiol/seicolegol yn annioddefol ar rai pwyntiau. Mae’r ffordd mae’r sequences ffantasi yn plethu a’r realiti drwy olygu di-ffwdan yn roi rhywun reit yn ei phen hi. Campwaith heb os.

    Ac Aberfan. Aberfan! Ges i sioc ar fy nhin clywed hwnna!

  2. Dw i’n cytuno, wnes i fwynhau Belle de Jour hefyd, Deneuve “la dame de glace” fel dyn ni byth wedi ei gweld hi.

  3. Rhag ofn bod unrhyw un yn cael eu temptio, mae’r ffilm “Hi Mom!” yn ddi-werth, oni bai eich bod yn ffan dim-ots Robert De Niro neu Brian De Palma.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>