Fel dw i newydd gyfadde ar y maes, dw i nôl ar fy nhethe Warcraft, ac hyn ers rhai wythnosau bellach (sy’n esbonio pam mae pethe wedi bod mor dawel fan hyn). Ond dw i wedi cyrraedd rhyw bwynt diflas yn y gêm lle dw i ddim yn siwr mod i am gario ymlaen.
Dw i’n 40 oed, neno’r tad.
Mae fy hen frwdfrydedd am ffilmiau America’r 70au cynnar wedi’i ail-danio heno gan ffilm des i ar ei thraws ar hap ar Amazon, sef Decade Under the Influence. Ffilm talking heads ydyw, lle mae’r pennau ar ysgwyddau rhai o gyfarwyddwyr mwya’r adeg. Dim byd arbennig iawn, dim llawer sy’n newydd ta beth, ond mae wastad yn braf gweld clipiau o dy hoff ffilmiau mewn un lle – a thrwy eu gweld, sylweddoli eto pa mor ffrwythlon oedd yr adeg honno.
Braf hefyd i sylweddoli bod cymaint o ffilmiau yr adeg dw i heb eu gweld eto, felly esgus perffaith i lwytho lan fy rhestr Amazon â pherlau colledig fel Hi Mom! a Panic in Needle Park.
Wedi bod yn gweithio fy ffordd trwyddo ffilmiau Robert Bresson, hoff gyfarwyddwr Sant Andrei. Bunuel, hefyd – mae Belle de Jour ’da fi lawr stâr i wylio heno.
Ond cyn i mi ddechrau swnio fel Mr Pretentious ffilm snob, y ffilmiau dw i wedi mwynhau’r fwya yn diweddar yw ddwy ffilm John Hughes ces i i’m penblwydd gan fy ffrindiau Caerdydd, sef The Breakfast Club a Ferris Bueller’s Day Off. Mae rhai ffilmiau ti eisiau gweld ar ôl noson dawnsio yn y Pentre Arms tan 4 o’r gloch y bore, a dydy Andrey Rublyov ddim yn un ohonyn nhw.