Dim ond dympio dolenni:
- Inhabit – blog Americanaidd am gynllunio’n wyrdd.
- MyNinjaPlease – blog arall am gynllunio, nid dim ond pethau gwyrdd.
- Idents newydd S4/C [sic] ar YouTube a thrafodaeth ynglŷn â hyn ar maes-e.
- Sali Mali a Sam Tân – pawb wedi gweld hyn, siwr o fod, ac mae Nwdls (am un) wedi blogio amdano, ond mae’n diflannu bob tro mae rhywun yn ei bostio.
- Chanticleer – blog Saesneg am wleidyddiaeth Cymru, newydd i fi. Ffeindiwyd yn y referrer log.
Hei Nic,
Wyt ti’n gyfarwydd â’r wefan ma: blog dyn o Baris sy’n dangos llun wahanol o Baris bob dydd. Falle dylet ti’n wneud yr un peth gyda…hm… Llangrannog
http://parisdailyphoto.com/
Beth am yr un ‘ma: dyn o Ffrainc sydd yn cymrud llun o ei hunan bob dydd!!!
“Egocentrique? Moi????”
http://www.09h09.com/
Sa i’n credu bod y byd yn barod i weld beth sy’n mynd ymlaen bob dydd yn Llangrannog.
Diolch am y lincs.
hehe wyt ti’n iawn!
Helo
Be ydy ‘codi canu’ yn saesneg os gwelwch yn dda?
saesnes dw’i!!!
Heather
Sa i’n gwybod, sori. “Raising a song”, efallai?
Dim cyfieithydd ydw i, dim ond blogiwr
diolchgar dw’i
(in English – my thanks, we watch ‘codi canu’ on S4C from Leicestershire, and online translators do not really say what the phrase means!! Used to live many many years ago in Ynys Mon & attended Coleg Prifysgol Gogledd Cymru – Welsh very poor but I try! I thought I would at least try to ask you in Welsh)
Heather