Yn ôl y New Scientist, mae siarad dwy iaith yn gallu cadw gorffwylltra draw am bedair blynedd, ar gyfarteledd. Ond mae rhaid siarad y ddwy iaith yn gyson, bob dydd.
Researchers said the extra effort involved in using more than one language appeared to boost blood supply to the brain and ensure nerve connections remained healthy – two factors thought to help fight off dementia.
“Unfortunately if you speak a minority language the fight to keep it alive will drive you potty,” he added.
Dw i’n edrych ymlaen at glywed y newyddion bod aml- neu ddwyieithrwydd yn atal gordewdra!
Dw i wedi bod yn darllen dy flog ers cyfnod hir gyda llaw, ac fe ddylwn i wedi bod yn gadael rhyw sylw cyn hyn. Diolch am dynnu sylw at weithiau David Jones. Wedi i fi ddarllen dy sylwadau amdano, fe ddarllenais “In Parenthesis.” Bardd ardderchog a chelfyddwr gwych.
Croeso Robert! Falch bod rhywun yn rhannu fy niddordeb yn David Jones. A glywaist ti’r fersiwn o In parenthesis oedd ar y radio yn diweddar?
Yn anffodus, fe fethais i hwnna. Gobeithio y bydd yn cael ei ailddarlledu rhyw bryd yn y dyfodol.
Newyddion dda! Beth am os wyt ti yn siarad mwy nag un waith ac yn yfed gwin coch ar y pryd?!
Ddim yn unig dwyt ti ddim yn diodde o effeithiau henoed, ti’n bennu lan edrych fel Julie Cristie.
Bargen!
Robert, mae e ‘da fi ar y Mac. Os wyt ti moyn copi, rho dy gyfeiriad post i mi: nicdafis [malwoden] gmail [smotyn] com.