Popeth yn Wyddeleg?

Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? – cyflwyniad yn y Guardian i gyfres teledu bydd yn dechrau ar TG4 nos Sul. Swnio bach yn gyfarwydd?

Mae’n debyg y cafodd Ifor ap Glyn llai o ymatebion gwael na gâth y Gwyddel Manchán Magan pan wnaeth e gopio arbrofiad Ifor gan deithio o gwmpas ei wlad gan siarad dim ond mamiaith y wlad honno.

Dyma glip:

Mae’n amlwg bod dwy brif wahaniaeth rhwng modus operandi Magan a’r hyn wnaeth Ifor ap Glyn: oedd agwedd Ifor yn fwy agored a chyfeillgar, hyd yn oed pan oedd pobl yn gwrthod gwrando arno fe (dw i ddim yn siarad Gwyddelig, ond dw i’n deall iaith y corff; mae Magan yn dweud rhywbeth fel “mae hyn yn ridiculous” mewn un sefyllfa – agwedd hawdd i’w ddeall, ond ddim yn debyg i helpu’r sefyllfa), ac yn ail, mi oedd criw camera Ifor yn fwy amlwg. Mae’r rhaglen Gwyddeleg wedi’i ffilmio gyda chamera cudd, am wn i. Ond, os dw i’n cofio yn iawn, wnaeth y criw Cymraeg un rhaglen gyda chamera cudd, a dal ddim yn cael y fath ymateb mae’r boi ’ma yn cael.

Rhyfedd iawn.

Mae rhaid gofyn weithiau, beth sy’n fwy pwysig: i gadw’r ucheldir moesol, a wneud yn siwr bod pawb yn gwybod taw ti sy’n iawn, neu i wneud bob ymdrech posibl i helpu pobl eraill dy helpu di yn dy dasg? Mae Ifor ap Glyn wedi profi ei fod yn bosibl byw yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg os oes amynedd Job, a gwên neis, gyda ti. Dw i ddim yn siwr beth mae Manchán Magan wedi profi.

Ar wahân i’r ffaith bod rhaglenni S4C, pan maen nhw’n wreiddiol, a Chymreig, a ddim wedi’u copio o deledu poblogaidd Saesneg, yn ddigon cryf i gael eu copio yn eu tro gan wledydd eraill.

This entry was posted in Heb Gategori and tagged , , , , . Bookmark the permalink. Trackbacks are closed, but you can post a comment.

7 Comments

  1. Posted Ionawr 5, 2007 at 12:34 pnawn | Permalink

    Dwi ar fin blogio am hwn fy hunan (yn Gymraeg a Saesneg) am mae’r sylwadau am y modd y ffilmwyd ag agwedd y cyflwynydd yn rhywbeth roeddwn innau hefyd yn meddwl a all ddylanwadu ar ymateb pobl – er wedi dweud hynny, mae rhai ymatebion yn swnio’n reit gâs.

  2. Posted Ionawr 5, 2007 at 1:10 pnawn | Permalink

    Mae llawer o bobl yn edrych ar y boi yn hyrt. Gyda’r rhaglen ‘Popeth yn Gymraeg’ roedd rhan fwyaf o’r pobl daeth Ifor ar draws yn gwybod mai Cymraeg oedd ef yn ei siarad. Yn y clipiau hyn mae’n ymweld bod pobl ddim hyd yn oed yn adnabod pa iaith oedd ef yn siarad. Diddorol iawn.

  3. Posted Ionawr 5, 2007 at 2:52 pnawn | Permalink

    Beth sy’n taro fi, wrth gymharu steil Ifor a steil Magan, yw’r cwestiynau gwahanol maen nhw’n ceisio ateb. Yn achos Ifor y cwestiwn oedd “a ydy hi’n bosibl i Gymro Cymraeg fyw ei fywyd bob dydd yng Nghymru heb siarad Saesneg?” a’r ateb oedd “ydy, os oes digon o amynedd ‘da fe”. Mae rhaglen Magan yn edrych fel ei bod yn gofyn yr un cwestiwn, ond y cwestiwn go iawn yw “a oes pobl wrth-Wyddeleg yn Iwerddon?”, cwestiwn sy mor amlwg ei ateb dw i’n synnu bod angen ei ofyn.

    Dw i ddim yn gwybod digon am Iwerddon a’r Wyddeleg i wybod faint o wahaniaeth byddai fe wdi neud ‘sai’r boi wedi dechrau bant gyda’r agwedd “reit, dim ond Gwyddeleg dw i’n mynd i siarad, ond dw i’n mynd i wneud bob dim sy’n bosibl i beidio dieithrio y bobl di-Wyddeleg dw i’n dod ar eu traws.” Prin iawn doedd e ddim yn sylweddoli pa mor anodd oedd hyn yn mynd i fod, ond mae’n edrych i fi (sy wedi gweld dim ond y clips bach yma, a fel dwedais i, sy ddim yn deall y sefyllfa ar lawr gwlad) ei fod e wedi ateb ei gwestiwn ei hun cyn dechrau’r ffilmio. Un o’r pethau o’n i’n licio am gyfres Ifor ap Glyn, a’r hyn oedd yn wneud y rhaglenni yna mor bwysig, oedd y ffaith bod Ifor yn cael ei siomi ar yr ochr orau drosodd a throsodd, hyd yn oed ar y rhagen pan cuddion nhw y camera.

    Mae’n bosibl hefyd bod y clips ond yn dangos y pethau gwaethaf oedd yn y rhaglenni, felly mae’n bwysig peidio barnu gormod.

    Arbrofiad diddordeb, ble bynnag a phwy bynnag sy’n wneud. Tybed ai Ifor ap Glyn oedd y cyntaf i drial wneud hyn ar y teledu? Dw i’n gwybod oedd Adferwyr yn wneud yn y 70au, a bod ‘na Gymry hyd heddi gyda digon o geiliau i fyw fel hyn trwy’r amser.

  4. prysgodyn
    Posted Ionawr 5, 2007 at 3:48 pnawn | Permalink

    Dwi ddim mor siwr a oedd Magan yn bod yn haerllug. Roedd o i’w weld yn reit gyfeillgar i fi.

    Ond dwi ddim yn dallt be di’r pwynt o fynd allan i ‘brofi bod Y Wyddeleg yn farw yn Nulyn’. Gall unrhyw un ‘brofi’ hynny drwy siarad efo ugain o bobl allan o filiwn mewn dinas Saesneg ei hiaith. Yn enwedig yn Nulyn, sydd â’i thrigolion efo hiwmor tywyll, dead-pan, a sydd ddim y ddinas fwya cyfeillgar yn y byd eniwe.

    Byddai wedi bod yr un mor hawdd i wneud rhaglen debyg, yn yr un ddinas, ar ‘faint o ewyllys da sydd tuag at y Wyddeleg’. Byddai wedi gallu dangos hynny yr un mor hawdd.

  5. Posted Ionawr 5, 2007 at 4:36 pnawn | Permalink

    Os oedd Ifor ap Glyn wedi ffilmio ei raglen yn gyfangwbl yng Nghaerdydd mi fydde wedi cael canlyniadau reit debyg. Mae’n werth edrych ar y ddau o glip o weddill y gyfres. clip 2, clip 3

  6. Posted Ionawr 5, 2007 at 5:24 pnawn | Permalink

    Dyma sylw ar fy mlog Saesneg gan Wyddel:

    I have my own theories on the show and on the presenter. Was going wait until the first episode aired before posting on it….but having seen this dude do other shows I cant but think that a lot of the reactions were to do with Manchán himself and his approach rather than the fact that he was speaking Irish. An Eejit is an Eejit no matter what language he is speaking!!

  7. Posted Ionawr 9, 2007 at 5:30 pnawn | Permalink

    Bu trafodaeth am hyn ar Metefilter pwyddiwrnod.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar