Ail-ddarganfod Andrei

Yr un mor wych, er ddim cweit mor hapus efallai, yw’r ffilm gwyliais i heddi, sef Regi Andrej Tarkovskij, ffilm ddogfennol gan Michal Leszczylowskis sy’n dod â’r DVD o ffilm olaf yr athrylith o Rwsia, Yr Offrwm. (Dw i newydd ffeindio clip YouTube o’r 8 munud cyntaf.) Dw i ddim yn cofio gwylio ffilm making of… gyda chymaint o ddiddordeb o’r blaen.

Mae un olygfa yn Yr Offrwm lle mae tŷ yn cael ei losgi. Yn ystod y saethu, oedd dau gamera’n ffilmio’r tŷ wrth iddo fynd i’r fflamau, ac ymatebion a symudiadau’r actorion i gyd. Doedd dim modd wneud camgymeriad; mi oedden nhw’n llosgi’r set. Ar ôl i bopeth ddod i ben, a phawb yn araf ymlacio, dyma Sven Nykvist, sinematogaffydd Tarkovsky ar ei ffilmiau olaf a bu farw yn 2006, yn dod at y meistr i ddweud bod ei gamera wedi jamio. Trychineb! Mae Tarkovsky yn torri i lawr, ffonio ei wraig a mynnu ei bod hi’n dod ato fe yn syth o Rwsia i Sweden i’w helpu dros yr argyfwng yma.

Ac wedyn, dyma’r criw ail-adeiladu’r tŷ, yn union fel y set gwreiddiol, ac wedyn ei losgi eto.

Mae lluniau gwych o’r tân fan hyn.

Dyma’r clip:

5 thoughts on “Ail-ddarganfod Andrei

  1. Braf dy weld yn ôl yn trafod ffilmia eto. Stalker oedd y ffilm Tarkovsky dwetha i fi weld, oesoedd yn ôl. Wedi gwylio The Proposition neithiwr – Aussie Western yn nhraddodiad Peckinpah. Di-gyfaddawd, gwych.

    Weles ti’r top 50 lost classics yn yr Observer – dy Two Lane Blacktop yno, a Cockfighter (rhagor o awgrymiadau yma). Dal yn gyted bo hwnna di mynd ar goll yn post i ti. A dwi dal heb ei weld o!

    Dyma rywbeth arall Tarkovsky des o hyd iddo ar y Tiwb:

  2. Sori Rhods, ddim yn bosibl cynnwys y sgrîn Tiwb yn y sylwadau. Wna i edrych i mewn iddo, ond mae lincs yn iawn.

    Ces i’r Proposition i rentu o Amazon, ond mae rhaid mod i mewn hwyliau drwg (neu dda, efallai) achos do’n i ddim yn gallu aros gyda fe. Rhy ddiflas, ar y pryd. Fi, neu’r ffilm, sa i’n cofio. ;-)

    Do, welais i’r rhestr, a braf iawn oedd gweld y ddau glasur Monte Hellman. Es i ati i wylio Two Lane Blacktop ynoson honno, ac unwaith eto gweld pethau newydd ynddo. Beth sy’n fy nharo nawr, fel mod i wedi darganfod rhywbeth hollol newydd, yw’r perthynas tadol rhwng GTO (Warren Oates) a’r bobl ifanc, yn enwedig y Gyrrwr (James Taylor). Rhywbeth i wneud â mynd yn henach, siwr o fod, colli tad fy hun a chael nai bach newydd yn yr un flwyddyn. Dyna’r tro cyntaf i mi weld Blacktop ers llynedd, ac oedd yn rhyfeddol pa mor ddwfn wnaeth yr elfen yna fy nharo.

    Diolch am yr atgoffiad am y rhestr ddo – mae fy rhestr Amazon yn edrych braidd yn denau. Amser chwilio am glasurol colledig arall.

    Ti wedi gweld Cockfighter, gyda llaw?

  3. Do, mi fenthycais i o gen ti! Wnes i ei fwynhau’n arw.

    Nid ti yw’r person cynta i ddweud hynny am The Proposition, doedd fy ngydweithiwr ddim yn gallu cael mewn iddo chwaith. Ddim yn credu cymeriadau Winstone a Watson. Sylw digon teg. Mi wnes i sylwi fod y gerddoriaeth yn reit jarring, ond eto, roedd yn ddiddorol i fi glywed cerddoriaeth modern ar Western fel’na. Doedd Danny Huston ddim mor annoying ac arfer chwaith. Dwi’n meddwl oedd

    Dwi’m yn dallt y ffys amdano fo o gwbl. Oedd o’n uffernol yn Silver City ac yn The Constant Gardener. Ti di gweld Ivans XTC? Mae hwnna’n fod yn un ffilm lle mae o’n wych.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>