Morfablog

Jump to content.

Blogi ogi ogi

Dim ond dympio dolenni:

Dwyieithrwydd yn atal gorffwylltra

Yn ôl y New Scientist, mae siarad dwy iaith yn gallu cadw gorffwylltra draw am bedair blynedd, ar gyfarteledd. Ond mae rhaid siarad y ddwy iaith yn gyson, bob dydd.

Researchers said the extra effort involved in using more than one language appeared to boost blood supply to the brain and ensure nerve connections remained healthy – two factors thought to help fight off dementia.

Deddf Iaith - Protest Bangor 27/01/07

Manylion ar y maes.

Canfod tywod, claddu pen

(So ni wedi cael rant anghysylltiol ers sbel, na dyn?)

Tony Blair yn cefnogi Ryanair (mwy na lai).

Days after his environment minister branded Ryanair the “irresponsible face of capitalism” for opposing an EU carbon emissions scheme, the prime minister says it is impractical to expect people to make personal sacrifices by taking holidays closer to home.

Beth oedd y busnes ‘na am fod on message, Tone?

Wnes i ddihuno y bore ‘ma gyda syniad am sut all y cwmniau hedfan gwerthu eu hediadau yn fwy gonest: tocynnau tranc rhywogaeth! (Angen enw gwell, efallai.)

Mae’n gweithio fel hyn: bob tro ti’n hedfan rhywle - a fydd dim cymalau gwantan am ba mor “anghenrheidiol” yw’r hediad - cei di seren fach mewn llyfr, gyda mwy o sêr am fwy o filltiroedd. Fatha Green Shield Stamps, i’n darllenwyr hŷn. Wrth i chi lenwi’r llyfr, bydd yn dangos faint o anifeiliaid sy wedi marw fel canlyniad o’r codiad mewn lefelau’r môr trwy’r byd. Ar y dechrau byddwn ni’n siarad am unigolion, wrth gwrs; lemur neu ddau ym Madagasgar, teigrod yn India, ac yn y blaen. Ond os oes digon o ddyfalparhâd ‘da ti, wnei di gyrraedd adran y llyfr sy’n dechrau sôn am rhywogaethau cyfan - dychmygwch fod y person cyntaf ti’n nabod i ennill bathodyn polar bear extinction!

Bydd llyfr arbennig i Tonyblairiaid y byd, pobl sy’n gallu wneud rhywbeth gyda’r pwer sy gyda nhw i newid y dyfodol, ond sy’n dewis opsiwn yr estrys. Cân nhw lyfrau gyda lluniau pobl ynddynt. Pobl Bangladesh, lle mae miliwn o bobl yn colli eu cartrefi bob blwyddyn fel canlyniad codiad yn lefel y môr. Pobl de dwyrain yr UDA, lle mae Katrina wedi dod i fyw. A, chyn bo hir, pobl Prydain.

Ti’n poeni am y mewnlifiad o Saeson i Gymru? Aros nes bod pobl de dwyrain Lloegr - a de ddwyrain Cymru, am hynny - yn dechrau gofyn “pa mor uchel yw’r tir?” yn hytrach na “pha mor isel yw’r pris?”

Tarkovsky a “kulning”, eto

Wedi bod yn gwylio Offret Andrei Tarkovsky, fel soniais i o’r blaen. Doedd dim albym trac sain i’r ffilm hon, felly dyma fi ceisio tracio i lawr y gerddoriaeth wych: Matthäs-Passion J.S.Bach, sy’n ddigon enwog wrth gwrs, ond dyw’r fersiwn sy yn y ffilm ddim ar gael ar CD; cerddoriaeth ffliwt o Siapan sy hefyd ddim ar gael, oni bai mod i’n colli rhywbeth; a’r peth mwya rhyfedd, kulning, dull draddodiadol o alw defaid a gwartheg yn Sweden (cafodd ffilm ei wneud yn y wlad honno). Mae un darn sy yn y ffilm ar gael fel MP3 (sgrolio i lawr tipyn bach). Wrth ddarllen am kulning oedd rhywbeth yn fy nharo yn gyfarwydd, felly nôl i Google â a ffeindio mod i wedi blogio am hyn o’r blaen, 4 blynedd a hanner yn ôl.

Mae’n swyddogol ‘te. Dw i wedi bennu darllen y rhyngrwyd. Be sy nesa?

Ddim wedi gweld y blogiad yma o’r blaen, gan ei fod yn newydd yr wythnos ‘ma. Ac mae MP3 bach arall fan ‘na.

Popeth yn Wyddeleg?

Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? - cyflwyniad yn y Guardian i gyfres teledu bydd yn dechrau ar TG4 nos Sul. Swnio bach yn gyfarwydd?

Mae’n debyg y cafodd Ifor ap Glyn llai o ymatebion gwael na gâth y Gwyddel Manchán Magan pan wnaeth e gopio arbrofiad Ifor gan deithio o gwmpas ei wlad gan siarad dim ond mamiaith y wlad honno.

Dyma glip:

Mae’n amlwg bod dwy brif wahaniaeth rhwng modus operandi Magan a’r hyn wnaeth Ifor ap Glyn: oedd agwedd Ifor yn fwy agored a chyfeillgar, hyd yn oed pan oedd pobl yn gwrthod gwrando arno fe (dw i ddim yn siarad Gwyddelig, ond dw i’n deall iaith y corff; mae Magan yn dweud rhywbeth fel “mae hyn yn ridiculous” mewn un sefyllfa - agwedd hawdd i’w ddeall, ond ddim yn debyg i helpu’r sefyllfa), ac yn ail, mi oedd criw camera Ifor yn fwy amlwg. Mae’r rhaglen Gwyddeleg wedi’i ffilmio gyda chamera cudd, am wn i. Ond, os dw i’n cofio yn iawn, wnaeth y criw Cymraeg un rhaglen gyda chamera cudd, a dal ddim yn cael y fath ymateb mae’r boi ‘ma yn cael.

Rhyfedd iawn.

Mae rhaid gofyn weithiau, beth sy’n fwy pwysig: i gadw’r ucheldir moesol, a wneud yn siwr bod pawb yn gwybod taw ti sy’n iawn, neu i wneud bob ymdrech posibl i helpu pobl eraill dy helpu di yn dy dasg? Mae Ifor ap Glyn wedi profi ei fod yn bosibl byw yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg os oes amynedd Job, a gwên neis, gyda ti. Dw i ddim yn siwr beth mae Manchán Magan wedi profi.

Ar wahân i’r ffaith bod rhaglenni S4C, pan maen nhw’n wreiddiol, a Chymreig, a ddim wedi’u copio o deledu poblogaidd Saesneg, yn ddigon cryf i gael eu copio yn eu tro gan wledydd eraill.

Ail-ddarganfod Andrei

Yr un mor wych, er ddim cweit mor hapus efallai, yw’r ffilm gwyliais i heddi, sef Regi Andrej Tarkovskij, ffilm ddogfennol gan Michal Leszczylowskis sy’n dod â’r DVD o ffilm olaf yr athrylith o Rwsia, Yr Offrwm. (Dw i newydd ffeindio clip YouTube o’r 8 munud cyntaf.) Dw i ddim yn cofio gwylio ffilm making of… gyda chymaint o ddiddordeb o’r blaen.

Mae un olygfa yn Yr Offrwm lle mae tŷ yn cael ei losgi. Yn ystod y saethu, oedd dau gamera’n ffilmio’r tŷ wrth iddo fynd i’r fflamau, ac ymatebion a symudiadau’r actorion i gyd. Doedd dim modd wneud camgymeriad; mi oedden nhw’n llosgi’r set. Ar ôl i bopeth ddod i ben, a phawb yn araf ymlacio, dyma Sven Nykvist, sinematogaffydd Tarkovsky ar ei ffilmiau olaf a bu farw yn 2006, yn dod at y meistr i ddweud bod ei gamera wedi jamio. Trychineb! Mae Tarkovsky yn torri i lawr, ffonio ei wraig a mynnu ei bod hi’n dod ato fe yn syth o Rwsia i Sweden i’w helpu dros yr argyfwng yma.

Ac wedyn, dyma’r criw ail-adeiladu’r tŷ, yn union fel y set gwreiddiol, ac wedyn ei losgi eto.

Mae lluniau gwych o’r tân fan hyn.

Dyma’r clip:

Blwyddyn Newydd Dda!

Wedi bod bach yn dawel rownd fan hyn, ond mae gen i deimlad y bydd yr hen flog yn denu mwy o’m sylw o hyn ymlaen.

Mae hyn yn wych, ac yn hapus: Robert DeNiro yn dychmygu pethau, ar Sesame Street.

Llawer, llawer mwy fan hyn.

Mwy o bethau gwych ac hapus i ddod!