(Nid mwy o’r hen rwtsh yma, siwri, Nic?)
Dyma ni nôl eto; mae bywyd â blas tipyn bach mwy dwfn arno ar hun o bryd, gan fod Philippa yn yr ysbyty adennill ei nerth ar ôl llawdriniaeth ddoe. Mewn hanner awr, bydda i ar fy ffordd i Fronglais i’w gweld.
A’r bore ’ma, dyma CD newydd Peter Hammill yn y post. Dw i’n gwrando arno nawr, a hyd yn oed hanner ffordd trwyddo, dw i’n gwybod taw hwn yw’r record gorau gan Hammill ers, beth, Patience? Fel mae’n dweud, yn ei gylchlythyr newydd, mae bron pob cân arno yn dangos olion yr harten gafodd e gwpl o flynyddoedd yn ôl, felly dyw e ddim yn easy listening yn union, ond mae’n cael gafael ynddof o’r gwrandawiad cyntaf, rhywbeth sa i wedi gallu dweud am y rhan fwya o’i waith ers yr 80au, ar wahan i Present, albym Van der Graaf yn 2005.
I lay on my back, post-heart attack, conscious of the fact that I needed to i) stay awake when awake and ii) rest, absolutely, when not awake; figuratively aware of hovering just outside the final gravity of a Drop. I didn’t drop, so I don’t know if that’s how it will feel in the end, if I’m granted (or cursed with) consciousness at the (my personal) finish. I certainly had the feeling that waiting for me in those moments when the chances of my life continuing depended on coins spinning in the air was some kind of black hole, some vortex which would not release me if I went too far into its grasp. I’ve tried to express some of those feelings here. This much, at least, is a report from the front line of experience.
Ac mae’n chwibannu arno!
O, ac un am golli rhiant. Diolch, Pete. Dw i fod i yrru mewn munud.
Fel allwch chi weld o’r brawddegau gor-hir yma, dw i ddim â’r amser i feddwl am beth dw i’n dweud yma. Ond dw i’n gwybod taw cerddoriaeth Hammill a Van der Graaf fydd yr unig peth i fi yn y dyddiau, wythnosau, i ddod.
Ac nawr bod mwy o gigs Van der Graaf wedi’u cadarnhau, dw i’n gweld bod hyn yn mynd i redeg a rhedeg…
Sori.