Colli un byd arall

Adnoddau Ieithoedd Mewn Perygl, safle newydd gan Brosiect Hans Rausing.

Mae hyn yn newydd i fi. Diben y brosiect, neu’r grŵp, yw cyllido prosiectau sy’n cofnodi ieithoedd mewn perygl. Fel arfer, o safbwynt yr ieithoedd hynny, byddai’r Gymraeg yn edrych fel un o brif ieithoedd y byd, felly nad yw’r brosiect ei hunan yn rhywbeth all fod o help i weithwyr iaith yma yng Nghymru fach, ond mae darllen am bethau fel hyn wastad yn atgoffa dyn amp mae’n bwysig i beidio colli’r ffocws. Fel mae is-deitl y wefan yn dweud:

…evry last word means another lost world.

  1. Ces i fy synnu hefyd gweld (ar y wefan roddet ti’n swn am) bod gogledd occitan ddim ‘ma… Mae’r iaith occitan yn lot well nawr ond dim ond achos mae nhw wedi dechrau ei ddysgu fe mewn fersiwn “normalisé”(= yr un iaith ar gyfer ledled dde Ffrainc)…
    Dw i’n gwybod bod yr un peth wedi digwydd yng Ngymru ond ydy trawsffurfio’r iaith a chael gared o’r tafodieithoed y ffordd gorau i gadw iaith?

  2. Digwyddodd yr un peth i ryw raddau yng Nghymru yn y 70au (y 60au?) gyda “Cymraeg Byw”, ond erbyn hyn mae cyrsiau Wlpan yn rhoi llawer mwy o bwys i ffurfiau tafodieithol. Mae’n gêm beryglus wrth gwrs; fel ti’n awgrymu, ‘sai’r “mudiad” Cymraeg i Oedolion yn llwyddiannus go iawn, mae’n bosibl y byddai dros miliwn o bobl yng Nghymru sy’n siarad “Wlpaneg”, a fydd yn swnio’n artiffisial i’r “Cymry Cymraeg”.

    Mae’n broblem sy bron wedi lladd y mudiad atgyfodi Cernyweg cyn iddo fe gael cyfle ennill tir i’r hen iaith honno. I ni ar y tu allan, mae’n edrych yn hurt bod pobl sy am arbed eu hiaith (wel, iaith eu cyn-deidiau) yn wastraffu egni dadlau am ba dafodiaith i’w dysgu mewn dosbarthiadau.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>