Ton a gwymon ar y gwynt

Cawson ni benwythnos yng Nghricieth er mwyn mynychu Gŷyl Gynghaneddu 2006. Fel arfer, dw i wedi dod yn ôl gyda fy mhen llawn barddoniaeth, a’r bwriad o ddarllen dim byd ond cerdd dafod nes bod yr hen fesurau yn chwysu o bob croendwll sy gyda fi.

Gan ddamwain, ffeindiais i fy hun mewn tîm Talwrn ar y nos Wener; tîm a oedd yn brin o aelodau presennol oedd eisiau rhywun i ddarllen un englyn. Sôn am deimlo fel ffugiwr.

Sawl uchafbwynt i’r penwythnos. Y Talwrn ei hun, ond rhaid cyfadde mwynheuais i’r un do’n i ddim yn “rhan” ohono fe yn fwy. Gwylio Guto Dafydd lunio englyn mewn rhyw ddau funud o’n blaen ni. Darlith Tony Conran, sy’n arwr i mi ers cyn i mi ddysgu’r iaith, ac un o’r ffyrdd mewn i’r iaith i mi yn y dyddiau cynnar. Y sesiwn Cawl o Gân, gyda rhyw 15 o feirdd, y rhan fwya o’r “to ifanc”. Clywed Gwynfor ab Ifor darllen ei awdl – un o’r profiadau cryda dw i wedi cael o wrando ar fardd darllen ei waith ei hun, ac un sy edi trawsnewid y gerdd ei hun i fi. Philippa yn ennill gwobr Englyn y Dydd ddoe. Y tywydd bendigedig ddoe, cerdded mewn cylch o gwmpas Cricieth mewn heulwen ddisglair. Gwrando ar In Parenthesis ar y ffordd yn ôl.

Penwythnos gwych iawn; mil o ddiolch i’r rhai sy’n ei drefnu ac i bob un sy’n cymryd rhan mewn pethau felly. Dw i’n gwybod pa mor ystrydebol yw e i ddweud pethau fel hyn, ond oedd wir yn fraint cael bod rhan o’r digwyddiadau yma.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>