Dysgu

Ro’n i am flogio am hyn wythnos yn ôl oedd aeth o’m pen: Gwyneth Lewis ar ddysgu Saesneg yn gyfrinachol, o’r Guardian ddydd Sadwrn diwetha ond un. Braf gweld stori bositif ar yr iaith yn y Guardian, sydd ond yn rhy barod i ail-gyhoeddu rwtsh Daily Mail-aidd er mwyn gysuro darllenwyr y Guardian ei fod yn iawn o hyd i gasau’r Cymry, er eich bod yn rhyddfrydol gofalus ym mhob agwedd arall o’ch bywyd.

Ond wrth gwrs, cafodd stori Gwyneth Lewis ei chladdu yn adran Family y papur, yn lle iddi fod yn y Review, fel fyddai stori am fardd uniaith Saesneg.

Paranoid, moi?

One thought on “Dysgu

  1. Mae Gwyneth Lewis yn fardd uniaith Saesneg siwr Dduw! Dyw’r jymbl gwallgo ‘na o eiriau sy’n smalio bod yn iaith ddim yn cyfri fel barddoniaeth!

    Fyddwn i’m yn poeni gormod am y cyfryngau yn Lloegr sydd jyst yn anwybodus o’n iaith – poeni lot mwy am y cyfryngau lleol sy’n gweld ei rinweddau fel bygythiad.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>