Crafu’r blogiau progllyd

Un o’r pethau gorau am roi ffidl y gêm chwarae rôl yn y to, yw bod mwy o amser ’da fi i wrando ar gerddoriaeth. Dros y Sul, wnes i glirio lle ar yr iMac gan ddileu gigabeitiaid o MP3au sy wedi’u llosgi ar CDr, neu sydd ddim yn debyg i gael eu chwarae ‘to. Sy’n golygu bod chwant ’da fi nawr i ffeindio mwy o stwff i lenwi’r lle gwag. Mae’n bosibl bydd hyn yn eitha hir o gofnod…

Dw i wrthi nawr lawrlwytho albym gan fand y 70au o Norwy, Titanic, ffeindiais i ar y blog Crotchbat. Mae Titanic bach yn fwy traddodiadol na’r stwff o’r 70au dw i’n arfer ei leicio, ond mae ’na rhywbeth eitha deniadol am y trac enghreifftiol sy ar y blog ’na. Fel sy’n tueddu digwydd, mae ei wefan yn eu cymharu â Led Zeppelin, ond maen nhw’n swnio mwy fel Spooky Tooth – ddim yn beth drwg, o gwbl. Sdim byd yn bod â bach o’r hen Spooky Tooth.

Dyma llun o Titanic, o 1970. Ych chi’n barod?

Gyda llaw, mae’r dudalen linciwyd uchod ynglŷn â Titanic yn rhan o wefan anhygoel Alex Gitlin, ffan heb ei ail o gerddoriaeth roc y 70au. Cannoedd o ddolenni yna i fynd ar goll ynddyn nhw.

Pethau eraill (rhybudd: mae’r rhan fya o’r lawrlwythiadau isod yn defnyddio Rapidshare.de, sy ddim wrth ddant pawb):

  • Psiglo – prog gwleidyddol o Uruguay
  • Ragnorak – prog gwerinol o Sweden.
  • Carmen – fflamenco prog (ai shit yw not)
  • Kluster – clasur o Krautrock – wedi bod yn edrych am hyn ers achau
  • Bootlegs – gormod o ddewis yma, ond dw i’n mynd am y rhai gan Sandy Denny a Black Sabbath, yr hen sublime/ridiculous

O’r gorau, dyna ddigon am nawr.

Erbyn i mi bennu pori trwy’r blogiau newydd ’ma, dw i wedi lawrlwytho’r Titanic a gwrando arno – ac mae’n lot well nag o’n i’n disgwyl. Nid prog yw e, o bell ffordd, ond roc bluesy efo pinsiad go fawr o ffync. Werth ei glywed, yn bendant.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>