Fy enw i yw Nic, a dw i’n gaeth i gemau cyfrifiadurol.
Heno, dw i wedi dileu fy nghymeriad yn Myd Crefft Rhyfel, a rhoi’r disgiau i Philippa i roi i Oxfam. Dw i ddim yn gwybod unrhyw ffordd arall o dorri fy nghaethiwed. Wrth i mi chwarae’r gêm ’na, dw i wedi colli diddordeb ym mron pob agwedd o fywyd tu allan i’r hyn sydd anghenrheidiol (wneud bach o arian, cadw tŷ, gobeithio bod rhyw fath o bartner i Philippa). Dw i ddim yn gwrando ar gerddoriaeth, ddim wedi gwylio ffilmiau, ddim yn blogio, ond yn edrych ar y maes i wneud yn siwr bod dim problemau yna, wedi dweud celwyddau er mwyn beidio wneud pethau fyddai’n tynnu fi ma’s o’r byd bach taclus yna, lle nad oes problem ariannol ’da fi, lle dw i ddim yn codi pwysau, lle does dim angen job, a lle mae pawb yn siarad yr un iaith heb feddwl amdano.
Y broblem oedd bod y gêm mor dda – dyna’r gêm o’n i wedi bod yn breuddwydio amdano ers i mi ddarganfod Dungeons & Dragons yn y 70au hwyr. Y byd ffantasïol perffaith. Yr unig ffordd alla i feddwl amdani i wella’r gêm fel y mae fyddai i wneud y “byd” yn fwy, ac maen nhw wedi meddwl o hynny.
Wnaeth South Park sgit ar WoW sawl wythnos yn ôl, a wnes i chwerthin ar ba mor bathetig oedd y dyn oedd wedi arberthu ei holl fywyd ar allor y Gêm, ond dyw’r jôc yna ddim yn ddoniol bellach. Am y tro cyntaf ers 3 blynedd, dw i’n dechrau stryglan wrth gerdded lan rhiwiau; tra bod fy alter ego yn mynd yn gryfach, dyma fi yn colli’r gallu i gadw lan gyda Philippa wrth gerdded i’r bws yn y bore.
Dw i’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i’r byd.