Falle mod i wedi blogio hyn o’r blaen, ond mae’n werth ail-ddweud – Jacques Brel yw un o’r cewri.
Faint o gerddorion dych chi wedi gweld sy’n byw eu caneuon fel hyn?
Iesgob.
Falle mod i wedi blogio hyn o’r blaen, ond mae’n werth ail-ddweud – Jacques Brel yw un o’r cewri.
Faint o gerddorion dych chi wedi gweld sy’n byw eu caneuon fel hyn?
Iesgob.
Hei, dw’i n cytuno mae Jacques yn roc!
Ond really druan am y dannedd, fydde fe byth yn gallu cael i selectio i’r Ecs Factor tasan e dal yn fyw. Fel mae Serge (Lama!) yn dweud “je suis malade…”
Byth di clywed y boi o’r blaen – ffanblyditastic. Mae na chwaneg ar YouTube hefyd.
Diolch Nic
@seren:
Oes, mae llawer o stwff Brel ar YouTube. Hawdd i fynd ar goll ynddo.
Rhaid dweud taw dyma un o’r sylwadau mwya calonig dw i wedi cael ar yr hen flog ‘ma. Braf iawn meddwl taw ar Morfablog darllenaist ti am Brel yn gyntaf
@sophie:
Ai’r Sophie o’n i’n arfer ei dysgu yn Aberteifi wyt ti? Mi oedd hithau’n ffan Serge, dw i’n cofio. Dyw’r URL i dy flog ddim yn gweithio – camdeipio?
Heia Nic, ie wyt ti’n iawn Sophie o Aberteifi sy ‘di ysgrifennu hwna, fan mwya Johnny Halliday
“vellavia” nid “velavia” roedd e wwwps!
Mae Serge (Gainsbourg) yn wych hefyd (Aros funud…pam hefyd?!! Dydy Johnny ddim yn wych o gwbl!! neu falle gwych ond mewn ffordd yn hollol “coeglyd”…)
Mae ferch Serge yn wneud yn eitha da chwarae teg. Ydy rhywun wedi gweld un ei ffilmiau?