Monthly Archives: Hydref 2006
Cymwl Tagiau
Bydd darllenwyr â llygaid barcud yn sylw bod yr adran “Pigion” wedi diflannu o’r bar ar y dde – mae’r sgript wedi stopio gweithio, dw i’n anghofio pam. Wna i ffeindio rhyw ffordd arall o gadw trac o’r pethau bychain, ond yn y cyfamser, dyma fy 173 tag mwya poblogaidd ar del.icio.us:
Posted in Eraill Leave a comment
Gwerthu tŷ’r Powysiaid
Mae’r tŷ lle cafodd John Cowper Powys ei eni ar werth. Dim ond dweud.
Cadw’r Cosmic Trigger yn Gyfforddus
Dyw ddim yn wneud pethau fel hyn yn aml, ond newydd glywed bod Robert Anton Wilson yn marw ac heb yr arain i dalu ei rent. Mae’n debyg bod digon o arian wedi dod i mewn i’w helpu dros dro, ond dyma dyn sy wedi helpu cymaint o bobl gyda ei lyfrau oedd yn amhosib [...]
Brwydr Cae’r Ffa
Roedd tipyn o wahaniaeth rhwng Gŵyl Côr y Cewri 1984 a’r un ŵyl yn 1985. Rhywbeth i wneud â chyffuriau? Beth oedd yr heddlu arno?
MP3s Will Get You Through Times Of No Money…
Mae hyn yn drist o gyfaddefiad, ond y prif wahaniaeth mae cerdded ma’s o swydd sefydlog a mynd yn ôl mewn amser 8 mlynedd wedi wneud i’m bywyd dydd-i-ddydd, yw bod rhaid i mi beidio prynu cymaint o CDs, llyfrau a DVDs. Felly, bydd Morfablog yn troi yn fwy o flog MP3 dros y misoedd [...]
Jacques Brel – Amsterdam
Falle mod i wedi blogio hyn o’r blaen, ond mae’n werth ail-ddweud – Jacques Brel yw un o’r cewri. Faint o gerddorion dych chi wedi gweld sy’n byw eu caneuon fel hyn? Iesgob.
Ffeindio Duw gyda’r Polyphonic Spree
Lithium (Nirvana) gan y Polyphonic Spreeeeee. Heb wrando ar Nirvana ers misoedd. Cofio siarad amdanyn nhw gyda Joss, sy’n tipyn yn ifancach na fi, a dweud wrtho i mi weld Nirvana yn Llundain yn y 90au cynnar ac iddo fod yn impresd iawn gyda hyn, fel o’n i wedi gweud mod i wedi gweld y [...]
Proffwyd heb anrydedd