Llio Rhydderch yng Nghegin Ceri

Manylion Ceri Ceri 5, Theatr Mwldan Aberteifi, nos Iau 5 Hydref 2006:

Llio RhydderchWedi’i hysbrydoli gan wychder cerddoriaeth draddodiadol, tirwedd ac iaith Cymru a thu hwnt dyma’r diweddara’ o Gegin Ceri lle mae Ceri Rhys Matthews (bagbibau, ffliwt a gitâr) yn rhannu cerddoriaeth fyw a thaith sgyrsiol o ganfyddiad drwy dirwedd gyfoethog gyda’r gynulleidfa a gwesteion arbennig – ychydig fel eistedd yng nghegin rhywun gyda theulu, cyfeillion a dieithriaid, ond yn Theatr Mwldan.

Heno’r gwestai yw Llio Rhydderch y delynores deir-res amryddawn sydd â sgiliau cerddorol a repertoire di-ail ddaw o genedlaethau o draddodiad llafar dros ganrifoedd, fe’i cydnabyddir fel un o delynoresau gorau Cymru heddiw. Mae Llio yn cyfuno traddodiad cerddorol gwych â dawn ysgubol i fyrfyfyrio, ac mae wedi cwblhau sawl prosiect cydweithiol â cherddorion o bob cwr o’r byd.

One thought on “Llio Rhydderch yng Nghegin Ceri

  1. Doeddwn i erioed wedi clywed am Llio Rhydderch tan eleni , a hynny ar maes-e .
    Wedi prynu Cd ‘Enlli’ tra ‘roeddwn adref ym mis Mai, ac mae’n cynnwys gwaith hudolus ac arbennig iawn.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>