Wedi bod yn dawel…
Mis Hydref fory, gwanwyn yr enaid. Mae rhywbeth am arogl pethau pydru sy’n fy llenwi â gobaith, aildanio fy niddordeb yn y byd. Ers bron â bod yn fis cyfan, dw i wedi bod â fy mhen yn nhywod byd arall, chwarae lan i 16 awr y dydd. Dw i’n gwybod bod hyn yn afiach, ond dw i ddim wedi bod yn poeni amdano – oedd angen brêc arnaf oedd y chwedl mewnol. A thu ôl i hynny o’n i’n gwybod y byddai rhaid dod ma’s ohono fe yn brydlon iawn cyn dechrau tymor newydd Cymraeg i Oedolion Cymraeg yn y Gymuned.
Rhan i o’r rheswm dros dynnu yn ôl o’r byd oedd yr embaras roeddwn i’n teimlo ar ôl gadael fy swydd gyda’r Urdd. Dw i erioed wedi cerdded ma’s o job o’r blaen, a doedd neb ond fi ar fai am y ffaith mod i’n ffeindio fy hunan mewn swydd oedd mor angywir i fi. Dw i wedi bod yn lwcus iawn i gael bach o waith dysgu, gwaith dw i ddim yn unig yn gallu wneud, ond gwaith dw i’n meddwl mod i’n wneud yn weddol da. Oedd yn anodd iawn y llynedd cadw’r lefelau brwdfrydedd yn uchel, gan fod ddosbarthiadau mor druenus o fach ’da fi, ond mae gen i ryw deimlad y bydd maint y dosbs yn codi eleni; dim rheswm penedol pam byddwn i’n teimlo felly, falle bydd rhaid i mi olygu’r cofnod optimistaidd yma erbyn diwedd yr wythnos sy’n dod, ond ie, dw i’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor, a dw i ddim wedi dweud hynny ers sbel.
Fi, fi, fi. Mae hyn yn dechrau swnio fel blog go iawn.
Mae chwarae WoW am gymaint a hynna’r dydd yn afiach. Guild Wars yn lot gwell.
Cytuno 100%, ond dyna’r unig beth oedd yn gallu dal fy sylw yn ystod mis Medi.
Wedi dod mas ohono fe nawr, ac yn gadael 2 awr y dydd i fy hun, sy’n fwy na digon.