Llio Rhydderch yng Nghegin Ceri

Manylion Ceri Ceri 5, Theatr Mwldan Aberteifi, nos Iau 5 Hydref 2006:

Llio RhydderchWedi’i hysbrydoli gan wychder cerddoriaeth draddodiadol, tirwedd ac iaith Cymru a thu hwnt dyma’r diweddara’ o Gegin Ceri lle mae Ceri Rhys Matthews (bagbibau, ffliwt a gitâr) yn rhannu cerddoriaeth fyw a thaith sgyrsiol o ganfyddiad drwy dirwedd gyfoethog gyda’r gynulleidfa a gwesteion arbennig – ychydig fel eistedd yng nghegin rhywun gyda theulu, cyfeillion a dieithriaid, ond yn Theatr Mwldan.

Heno’r gwestai yw Llio Rhydderch y delynores deir-res amryddawn sydd â sgiliau cerddorol a repertoire di-ail ddaw o genedlaethau o draddodiad llafar dros ganrifoedd, fe’i cydnabyddir fel un o delynoresau gorau Cymru heddiw. Mae Llio yn cyfuno traddodiad cerddorol gwych â dawn ysgubol i fyrfyfyrio, ac mae wedi cwblhau sawl prosiect cydweithiol â cherddorion o bob cwr o’r byd.

Y Peth Sbwciaf Erioed

Ddoe, am y tro cyntaf ers mis, gwrandawais i ar Van der Graaf Generator ar fy ffordd yn ôl o’r dafarn, a sylwi eto pa mor anhygoel o wych yw Godbluff.

Neithiwr, am y tro cyntaf ers misoedd, ces i freuddwyd am Van der Graaf – Hammill wedi ail-lansio’r band gyda lein-yp hollol newydd, dau gitarydd a dau ddrymiwr, ac yn wneud gig yn neuadd Ysgol Rhiwabon. Lle aeth fy mam. Wrth gwrs.

Y bore ’ma, ebost oddi wrth Watch That Page sy’n tynnu fy sylw at bwt o newyddion bach:

“After a period of consideration and some exploratory rehearsal sessions over the summer, Hugh Banton, Guy Evans & Peter Hammill are now looking forward with excitement to the next phase in the VdGG reunion.

They expect to be doing shows in the first half of 2007 and will also be recording new material in this period with a view to releasing an album later in the year.

Van der Graaf Generator is now a trio consisting of the three surviving members of the original 1968 formation. David Jackson has not been a member of the group since November 2005.”

IIieiieeeeeieieieiiei!!

Sbamwyr yn eu hôl

Geiriau ar fy “rhestr ddu” gwrth-sbamio. Llai tebyg byth y byddai Cymry yn defnyddio un o’r rhain mewn sylw yma, ond ’sech chi’n neud, fyddai i ddim yn gweld y neges, caiff ei dileu’n awtomatig. (Dyma un o’r pethau dw i wedi bod yn osgoi wneud ers mis.)

Unlikely that anyone would, but if you leave a comment here including any of the words in the list below, the comment will be automatically nuked and I won’t even receive a notification. The list will grow as I try to head the spammers off at the pass.

xanax
insurance
viagra
ringtone
ringtones
blackjack
slotmachines

Bore da

Wedi bod yn dawel…

Mis Hydref fory, gwanwyn yr enaid. Mae rhywbeth am arogl pethau pydru sy’n fy llenwi â gobaith, aildanio fy niddordeb yn y byd. Ers bron â bod yn fis cyfan, dw i wedi bod â fy mhen yn nhywod byd arall, chwarae lan i 16 awr y dydd. Dw i’n gwybod bod hyn yn afiach, ond dw i ddim wedi bod yn poeni amdano – oedd angen brêc arnaf oedd y chwedl mewnol. A thu ôl i hynny o’n i’n gwybod y byddai rhaid dod ma’s ohono fe yn brydlon iawn cyn dechrau tymor newydd Cymraeg i Oedolion Cymraeg yn y Gymuned.

Rhan i o’r rheswm dros dynnu yn ôl o’r byd oedd yr embaras roeddwn i’n teimlo ar ôl gadael fy swydd gyda’r Urdd. Dw i erioed wedi cerdded ma’s o job o’r blaen, a doedd neb ond fi ar fai am y ffaith mod i’n ffeindio fy hunan mewn swydd oedd mor angywir i fi. Dw i wedi bod yn lwcus iawn i gael bach o waith dysgu, gwaith dw i ddim yn unig yn gallu wneud, ond gwaith dw i’n meddwl mod i’n wneud yn weddol da. Oedd yn anodd iawn y llynedd cadw’r lefelau brwdfrydedd yn uchel, gan fod ddosbarthiadau mor druenus o fach ’da fi, ond mae gen i ryw deimlad y bydd maint y dosbs yn codi eleni; dim rheswm penedol pam byddwn i’n teimlo felly, falle bydd rhaid i mi olygu’r cofnod optimistaidd yma erbyn diwedd yr wythnos sy’n dod, ond ie, dw i’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor, a dw i ddim wedi dweud hynny ers sbel.

Fi, fi, fi. Mae hyn yn dechrau swnio fel blog go iawn. ;-)

Cydymdeimlo â’r Hen Nic

Wedi fy nghaffeineiddio, a gwrando ar Beggars Banquet, un o’m hoff albyms yr Rolling Stones, a wneud bach o Gwglo o gwmpas ei drac cyntaf mawreddog, Sympathy For The Devil pan des i ar draws hyn:

Released on Dec. 5, 1968, “Beggar’s Banquet” came out just 10 days after the Beatles’ White Album…

Wnaeth hynny jyst yn fy nharo fi. Dw i ddim yn dweud bod dim byd werth gwrando arno y dyddiau ’ma – dw i’n prynu mwy o gerddoriaeth gan artistiaid cyfoesol nag ydw i wedi neud erioed – jyst y ffaith bod dau albym fel hynny yn dod mas o fewn pythefnos o’i gilydd…

Ocê, sori, gormod o goffi.

Cernyw Heb Rent

Post diddorol ar y maes heddiw ’ma, ynglŷn â’r blog Rent Free Cornwall, sef, yn y bôn, rhestr o dai haf yng Nghernyw sydd ar gael i bobl lleol eu sgwotio.

There is an ongoing housing crisis in Cornwall. Property speculators and investors are buying more houses as Cornwall becomes more fashionable. Towns and villages are becoming ‘ghost towns’ as local working families are forced out, unable to afford to either rent or buy a home. But all these empty homes can be saved, and communities restored, simply by lawfully squatting them.

Syniad difyr, neu syniad ffôl?

Circulus – Cnuchwyr Coblynnod?

Iawn, wedi sôn am (yr unig) peth negyddol ym mhenwythn os y Dyn Gwyrdd, dyma un o’r pethau positif: Circulus, band “gwahanol” o Loegr ddyfnaf. Un o’r bandiau all fod yn bryfoclyd dros ben ’set ti mewn hwyliau drwg, ond mewn cau mwdlyd a mwglyd does dim byd gwell. Gallwch chi fod wedi darllen amdanyn nhw yn y Guardian y llynedd, ond i werthfawrogi eu hapêl arbennig, mae rhaid i ti eu gweld nhw.

Basŵn!