Yn ôl gwaith ymchwil gan David Sifry, mae 2 flog newydd yn lansio bob eiliad. Mae Technorati yn olrhain 50 miliwn o flogiau erbyn hyn.

Ond yma yng Nghymru, er gwaethaf tyfiant diweddar yn nifer o flogiau Cymraeg, mae blogio dal yn rhywbeth ymylol, ond yw e? Faint o Gymry (sy ddim yn aelodau maes-e) yn gwybod pa beth yw blog?

This entry was posted in Heb Gategori and tagged , , . Bookmark the permalink. Trackbacks are closed, but you can post a comment.

4 Comments

  1. Posted Awst 9, 2006 at 10:10 bore | Permalink

    Dyw’r ddolen ddim yn gweithio. Cymry Cymraeg ti’n feddwl? Dwn i’m. Mae na tipyn o’r bobl ifanc ‘ma gyda blogiau MySpace (ond efallai eu bod yn aelodau maes-e)

  2. Posted Awst 9, 2006 at 11:13 bore | Permalink

    Mae’r graff isaf ynglyn a phryd mae pobl yn blogio yn diddorol. Ydi technorati’n gallu adnabod Cymraeg ar flogiau?

  3. Posted Awst 9, 2006 at 11:54 bore | Permalink

    Ddim yn gwybod digon am sut mae Technorati yn gweithio. Os ydyn ni’n dibynnu ar tagiau meta, fyddwn ni ddim yn meddwl – faint o flogwyr Cymraeg sy’n defnyddio tag meta iaith?

    (Dw i ddim, bellach, dw i newydd sylweddoli.)

    Ond mae’n anhebyg iawn y byddai’r Gymraeg yn ymddangos ar siart fel ‘na, ond fel rhan o’r “Other – 5%”. Os oes 50 miliwn o flogiau yn Technorati, mae 1% yn 500,000 . Faint o flogiau’r byd sy yn Gymraeg felly? 0.0001% neu 0.0002% ? ;-)

    (Diolch am ddweud am y linc – defnyddio Windows yn y gwaith, ac mae rhyngwyneb WYSIWYG wedi’i borcio.)

  4. Posted Awst 9, 2006 at 12:53 pnawn | Permalink

    Sgynai’m cliw beth yw tag meta, a siwr o fod byddai ddim modd ei newid ar flog Blogger beth bynnag.

    Ar wefan Technorati gallwch ymchwilio blogioau yn ôl iaith, ond dim ond dewis o 20 iaith sydd yna (does dim rhaid dweud nad yw’r Gymraeg yn un ohonynt!)

    Dwi ddim yn awgrymu byddai colli’r 100 blog Cymraeg yn gwneud tolc mawr i ganran y Saesneg. Ond gan fod y mwyafrif o flogwyr Cymraeg yn defnyddio Blogger ac yn defnyddio’r rhyngwyneb Saesneg (ac yna’n ei addasu hyd y gallwn), mae’n debyg mai cael ei gyfrif fel Saesneg mae nhw. Yr un fath gyda blogiau Blogger gan siaradwyr Gwyddeleg, Gaeleg, Ieithoedd brodorol Awstralia ac America, gan mai Saesneg fyddai’r iaith ‘swyddogol’ byddent debycach o’i siarad a sydd ar gael iddynt fel rhyngwyneb.

    Yn yr un modd byddai blogiau gan Basgwyr (sydd ddim yn defnyddio Bitakora), a siaradwyr ieithoedd brodorol rhan helaeth o dde America yn debygol o ddefnyddio blogger gyda rhyngwyneb Sbaeneg neu Portiwgieg. Wrth gwrs, ffracsiwn o ganran dan ni’n dal i sôn am yma.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar