Fel dwedais i, bydda i yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a dw i wedi bod yn pori trwy amserlen yr ŵyl i weld pwy sy’n chwarae.
Mae pawb yn chwarae.
Wel, na, ond mae mwy o fandiau na bydd yn bosibl i mi weld. Jyst o Gymru mae Gruff Rhys, The Gentle Good, Euros Childs, Richard James a’r hen Feic. Pwy sy angen Steddfod?
Ond unwaith ti’n dechrau edrych ar y rhestr o artistiad o weddill y byd, mae’n dechrau bod yn sili. Sut ydw i fod i wylio Calexico a Sunburned Hand of the Man ar yr un pryd?
lle’n union mae’r Dyn Gwyrdd ‘ma?
Plas Rhywbeth, ddim yn nepell o Grughywel.
Sori, Parc Glanusk yw e.