‘Elo bobl.
Wedi bod yn dawel yma ers y Blogathon. Am un peth, doedd dim cysylltiad i’r we ’da fi am y rhan fwya o’r wythnos, am resymau anhysbys. Am beth arall, ar ôl i ti treulio diwrnod cyfan eiste o flaen sgrîn cyfrifiadur yn Aberystwyth, dwyt ti ddim cweit mor arwyddus i dreulio dy noson neud yr un peth ym Mhontgarreg.
Mae ymwelwyr gyda ni eto’r penwythnos yma, fy mam, fy chwaer Claire, ei gŵr hi Derek, a’u mab bach Finley. Mae Fin wedi bod yn ein cadw yn fishi, fel mae bechgyn 9 mis oed yn gallu neud, ond ar ôl ei ddôs beunyddol o Balamory, mae’r teulu cyfan (ond fi) wedi ei hegla i Aberteifi i neud bach o siopa, gan fy ngadael ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf ers canol nos Sadwrn.
Mae’n dawel yma.
Ta waeth, wedi bod yn darllen cofnodion diweddar Dogfael am yr Eisteddfod a sylweddoli pa mor genfinegus ydw i o chi’r bobl sy â’r rhyddid i fynd lawr i Abertawe am yr wythnos. Dim ond ers Meifod dw i wedi bod yn Steddfodwr brwd, ond bydda i’n wir gweld eisiau eleni, gan fy mod i’n gorfod gweithio yn Aber tan dydd Iau, wedyn gyrru lawr i gwrdd â Philippa, a gobeithio bod ’na mewn digon o amser i fynd i gig Cymdeithas yr Iaith gyda’r nos. Ddydd Gwener bydda i’n gweithio ar stondin yr Urdd (dere draw a dweud helo) a dydd Sadwrn byddaf yn rhydd i fwynhau beth sydd ar ôl o’r Steddfod, yn bennaf, y Ŵyl y Dyn Gwyrdd, lawr ym mherfyddion Bannau Brycheiniog, gyda fy ffrindiau Rosie, Chris, Jude ac Al.
Ffiw.
Oes rhyfedd mod i’n edrych fel hyn, y dyddiau ’ma?

Be ti angen yw job sy’n gyrru ti i’r Steddfod petai ti’n hoffi hynny ai peidio.
Nic Dafis:
Hmmm, nath yr img tag ddim gweithio.
Trio deud fod y llun yn edrych fel Gumby
Ha! Dyna un o’r pethau roedd fy chwaer (sy yma nawr) yn arfer dweud amdano pan o’n ni’n blant, ac o’n i wedi neud/gweud rhywbeth twp.