Morfablog

Jump to content.

Dave Evans

Un o’r pethau neisaf am y Dyn Gwyrdd oedd y pethau ffeindiaist ti heb edrych amdanyn nhw. Un adeg, cipiais i mewn y babell y sinema, i osgoi cawod sydyn o law. Dyna Neil Young ar y sgrîn, felly dyma fi’n setlo i lawr i wrando ar hwnna; wedyn, clip bach o Django Reinhart. Iawn, dw i’n aros am sbel ‘te.

Dal ddim yn gwybod beth ydw i’n gwylio, ond wrth iddo fe fynd ymlaen dw i’n gweld taw casgliad o glips cerddorol “gwerinol” ar hap yw e (wedi’u casglu gan Andy Votel, ond do’n i ddim yn gwybod hynny ar y pryd). Ac mae’r un nesa yn rhywbeth hollol newydd i fi, sef clip o’r Old Grey Whistle Test, adeg Whisperin’ Bob. Gitarydd ifanc, a rhai o’r fingerpicking gorau dw i wedi gweld yn fy myw: Dave Evans.

O beth dw i’n gallu ffeindio ar y we, dim ond dau albym recordiwyd gan Evans, a dim ond un ohonyn nhw ar gael ar CD. ‘Sai fe wedi cael digon o sens i farw yn ifanc fel Nicky Drake byddai’n enw cyfarwydd i bawb erbyn hyn, ond mae Dave wedi dewis byw, mewn bragdy/crochendy ym Mrwsel, lle mae hefyd yn neud gitarau bespoke. Ddim mor ramantus â lladd eich hunain yn eich hugeiniau, ond llawer mwy o hwyl, siwr o fod.

Hoffwn i roi MP3 yma, ond byddai’n well sgwennu at y dyn ei hun yn gyntaf, dw i’n credu.


[Gol.] Syth ar ôl postio’r uchod, ffeindiais i disgograffi ar wefan Dave Evans. Mae mwy o stwff mas ‘na rhywle.

Ymddiheuriadau - Apologies

…i unrhyw wnaeth gadael sylwadau yn ystod y Blogathon sy newydd ymddangos heddi. Dim ond Hedd yn y Gymraeg, ond…

Many apologies to those of you who left comments during the Blogathon which got caught up in moderation. I’ve only just noticed that my email program has been filtering “please approve this comment” messages as being spam.

My own dear mother, making her first ever comment on Morfablog, was one of those caught in my over efficient spam trap. I’m going to be in so much trouble.

RSS yr Urdd

Ffîd newyddion yr Urdd. Ddim yn credu bod Bloglines yn gallu ffeindio hyn…

Yn ôl gwaith ymchwil gan David Sifry, mae 2 flog newydd yn lansio bob eiliad. Mae Technorati yn olrhain 50 miliwn o flogiau erbyn hyn.

Ond yma yng Nghymru, er gwaethaf tyfiant diweddar yn nifer o flogiau Cymraeg, mae blogio dal yn rhywbeth ymylol, ond yw e? Faint o Gymry (sy ddim yn aelodau maes-e) yn gwybod pa beth yw blog?

78rpm ar MP3

Casgliad o recordiadau 78rpm ar MP3. Mae’r stwff ‘ma mor hen dyw hawlfraint ddim yn broblem bellach.

Ers i mi ddod o hyd i Sufjan (ie, ie, fi yw’r un ola, fel arfer), mae blas ‘da fi am dipyn bach o fanjo.

Y Dyn Gwyrdd

Fel dwedais i, bydda i yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a dw i wedi bod yn pori trwy amserlen yr ŵyl i weld pwy sy’n chwarae.

Mae pawb yn chwarae.

Wel, na, ond mae mwy o fandiau na bydd yn bosibl i mi weld. Jyst o Gymru mae Gruff Rhys, The Gentle Good, Euros Childs, Richard James a’r hen Feic. Pwy sy angen Steddfod?

Ond unwaith ti’n dechrau edrych ar y rhestr o artistiad o weddill y byd, mae’n dechrau bod yn sili. Sut ydw i fod i wylio Calexico a Sunburned Hand of the Man ar yr un pryd?

Iawnski?

‘Elo bobl.

Wedi bod yn dawel yma ers y Blogathon. Am un peth, doedd dim cysylltiad i’r we ‘da fi am y rhan fwya o’r wythnos, am resymau anhysbys. Am beth arall, ar ôl i ti treulio diwrnod cyfan eiste o flaen sgrîn cyfrifiadur yn Aberystwyth, dwyt ti ddim cweit mor arwyddus i dreulio dy noson neud yr un peth ym Mhontgarreg.

Mae ymwelwyr gyda ni eto’r penwythnos yma, fy mam, fy chwaer Claire, ei gŵr hi Derek, a’u mab bach Finley. Mae Fin wedi bod yn ein cadw yn fishi, fel mae bechgyn 9 mis oed yn gallu neud, ond ar ôl ei ddôs beunyddol o Balamory, mae’r teulu cyfan (ond fi) wedi ei hegla i Aberteifi i neud bach o siopa, gan fy ngadael ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf ers canol nos Sadwrn.

Mae’n dawel yma.

Blog-gwrdd!Ta waeth, wedi bod yn darllen cofnodion diweddar Dogfael am yr Eisteddfod a sylweddoli pa mor genfinegus ydw i o chi’r bobl sy â’r rhyddid i fynd lawr i Abertawe am yr wythnos. Dim ond ers Meifod dw i wedi bod yn Steddfodwr brwd, ond bydda i’n wir gweld eisiau eleni, gan fy mod i’n gorfod gweithio yn Aber tan dydd Iau, wedyn gyrru lawr i gwrdd â Philippa, a gobeithio bod ‘na mewn digon o amser i fynd i gig Cymdeithas yr Iaith gyda’r nos. Ddydd Gwener bydda i’n gweithio ar stondin yr Urdd (dere draw a dweud helo) a dydd Sadwrn byddaf yn rhydd i fwynhau beth sydd ar ôl o’r Steddfod, yn bennaf, y Ŵyl y Dyn Gwyrdd, lawr ym mherfyddion Bannau Brycheiniog, gyda fy ffrindiau Rosie, Chris, Jude ac Al.

Ffiw.

Oes rhyfedd mod i’n edrych fel hyn, y dyddiau ‘ma?

Nic, gwallgof

Wlpan Blog

Diolch i Rhys am dynnu fy sylw at hyn: Wlpan Blog. Dysgwr ar gwrs Wlpan Awst yn Aberystwyth sy’n blogio yn ddyddiol (wel, pan bo egni ‘da fe) am ei brofiadau.
Mae’n eitha di-flewyn ar dafod, hefyd, sy’n wych o beth.

A new blog about the experiences of a learner on Aberystwyth University’s Wlpan Awst.