Dyma rhywbeth arbennig, stori Rhys a Meinir, y cwpl trasig o Nant Gwrthyrn, wedi’i hadrodd gan Iona, chwarae Carys a wnaeth y lluniau yn gynharach. Mae hi’n hen stori, mae’n debyg, ond un sy’n hollol newydd i fi.
Priodas Rhys a Meinir
Amser maith yn ôl, mewn pentref bychan ger y môr o’r enw Nant Gwrtheyrn, roedd dau gariad yn eistedd o dan y goeden dderw. Roedd hi’n ddiwrnod cyn priodas Rhys a Meinir ac roedd pawb yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr. “Dwi’m yn gallu aros tan y fory” dywedodd Meinir yn hapus.
“O! Na fi. Dwi’n dy garu di cymaint Meinir! ‘Drycha be wnes i bore ’ma” meddai Rhys wrth bwyntio at y boncyff coeden. Roedd o wedi cerfio calon yn y goeden gyda ‘Rhys a Meinir priododd a’r y 5ed o Orffennaf’ wedi ei ysgrifennu y tu mewn.
“O NA!!” gwaeddodd Meinir
“Be sy’?” gofynodd Rhys yn syn.
“Pam wnest di hyna? Dydan ni heb briodi eto; rwyt ti wedi temtio ffawd Rhys” meddai Meinir yn bryderus.
“O Meinir! Paid a phoeni, fydd dim byd drwg yn digwydd, dwi’n addo!”
Bore drannoeth, roedd yr haul yn tywynnu dros Nant Gwrtheyrn. Roedd hi’n ddiwrnod y briodas. Roedd pawb mewn hwyliau da ac yn aros y tu allan i’r eglwys gydag anrhegion a blodau. Roedd hi’n draddodiad ar y pryd i’r briodferch fynd i guddio ac i’r briodfab geisio ei darganfod. Felly, fe aeth Meinir i edrych am rywle i guddio. Ar ôl ychydyg o amser fe aeth Rhys allan i edrych amdani, gydag ychydyg o helpwyr. Edrychodd mewn llawer lle ond doedd dim sôn o Meinir.
“MEINIR! MEINIR!!” gwaeddodd ond doedd dim ateb.
Dechreuodd bawb bryderu. Roedd Meinir wedi bod ar goll ers awr erbyn hyn. Edrychodd pawb amdani yn y berllan, ar y traeth, ac wrth yr eglwys, ond doedd dim sôn o Meinir.
Roedd Rhys wirioneddol yn poeni erbyn hyn, “MEINIR, TYRD ALLAN!!” bloeddiodd dros y lle ond doedd dim iws.
Roedd hi’n dechrau nosi, dechreuodd bobl fynd yn ôl adref i’w tai yn drist, ond parhaodd Rhys i chwilio am ei gariad. Ar ôl orau o chwilio syrthiodd i gysgu wrth ymyl y goeden dderw lle roedd y ddau’n arfer cyfarfod.
Parhaodd y chwilio drannoeth hefyd ac y diwrnod wedyn. Trodd y diwrnodau yn wythnosau ac yr wythnosau yn fisoedd ond doedd dim sôn am Meinir. Erbyn hyn roedd Rhys wedi mynd yn wallgo; roedd yn caru Meinir cymaint. “O!! MEINIR!! TYRD ALLAN!!!” gwaeddodd. Gwaeddodd i Dduw i gael ei gariad yn ôl.
Ceisiodd bobl y pentref berswadio Rhys i fynd yn ôl i’w gartref ond gwrthododd a chysgodd wrth y goeden dderw pob nos.
Un noson oer roedd storm mellt a tharannau erchyll yn Nant Gwrtheyrn. Roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn, tarannodd y tarannau a fflachiodd y mellt yn llachar. Dihunodd Rhys yn sydyn wrth glywed y swn. Yn sydyn fflachiodd fellten ar y dderwen; roedd yr olygfa yn un erchyll. Roedd boncyff y goeden wedi ei hollti yn hanner a syrthiodd sgerbwd mewn gwisg briodas allan o’r goeden. “AAAAA” sgrechiodd Rhys “MEINIR!!”. Torrodd ei galon a bu farw yno yn y fan a’r lle.
Cafodd y ddau eu claddu gyda’i gilydd yn Nant Gwrtheyrn.
Rydych yn gallu ymweld â’r pentref heddiw ac aros yn y bythynod yno. Mae caffi a chanolfan dysgu Cymraeg yno a gall ddysgwyr fynd a’r gyrsiau yno.
A classic Welsh tale of love, tragedy and the supernatural, told wonderfully by Iona, the other multi-talented Jones sister currently staying with us. Here’s a version of the tale in English [ed. scroll down - the original link didn't work properly, this is a new one]. Nant Gwrtheyrn is best known these days as the home of the National Welsh Learning Centre.