Wnaeth Gwyn fara hyfryd i ni neithiwr, a gofynnon ni iddo fe am y rysait. Syml iawn, chwedl e:
1kg o flawd cryf
750ml o ddŵr (cyfanswm
2 lwy de o halen
2 lwy fwr o olew
1 llwy de o furum
1 llwy de o siwgrDilynwch gyfarwyddiadau ar y paced burum, neu…
Ymdoddwch y siwgr mewn 50ml o ddŵr berwedig. Ychwanegwch 150ml o ddŵr oer a chymysgwch y burum ynddo. Gadewch iddo adweithio am tua 20 munud.
Cymysgwch bopeth myn drwyadl mewn powlen sy’n ddwywaith maint y cynhwysion. Sicrhewch nad oes unrhyw flawd sych yn unman.
Gorchuddiwch wyneb y toes gyda “cling ffilm” a’i adael tan iddo chwyddo i ddwywaith ei faint ac mae’n llawn sgwigod.
Gosodwch y popty ar 225°C.
Yn y cyfamser, gwasgwch y toes allan ar ford flawdiog iawn (defnyddiwch gyllell i grafu’r toes allan). Ffurfiwch y toes yn belen gyda chyllell a’i hanneru. Ffurfiwch dwy belen heb eu gwasgu a’u rhoi mewn tuniau bara.
Unwaith mae’r popty wedi cyrraedd ei dymheredd, rhowch y 2 dorth yng nghanol am awr. (Peidiwch â phoeni os yw’r crystun yn ddu.)
Tynnwch y bara allan a’i adael ar restl fara i oeri.
