“A wnei di fe ‘to?” / “Will you do it again?”

Dw i’n rhy hwyr i gymryd rhan yn y gêm, ond hoffwn i gael go ar y cwestiwn.

Yn gorfforol, mae hyn wedi teimlo yn haws na phob un o’r Blogathons eraill dw i wedi wneud. Ond yn emosiynol, dw i wedi teimlo, fel bob blwyddyn, ma’s ohono fe gan fy mod i’n blogio yn Gymraeg, a does dim digon o ddiddordeb ymysg Cymry Cymraeg yn y fath ’ma o bethau. Wrth ddarllen y blogiau dw i wedi bod yn gwylio, dw i wedi synnu faint o adborth maen nhw’n cael, gan eu darllenwyr arferol siwr Duw, ond hefyd gan bawb sy’n digwydd dod ar eu traws, finne yn eu mysg. Ond fan hyn, mae rhan fwy o bobl yn gweld foreign language a symud ymlaen.

Felly, blwyddyn nesa, os nag oes neb arall yn mynd i ymuno a wneud Blogathon Cymraeg (a does dim rheswm pam dylai neb), dw i’n dal i fwriadu wneud, ond…

I’ll probably do it in my first language. This one.

5 thoughts on ““A wnei di fe ‘to?” / “Will you do it again?”

  1. Mi fasa hynny’n biti Nic, ond dwi’n deall pam dy fod am wneud hyn. Cyn belled y gai ddweud gair neu ddau yn Gymraeg yn ystod dy blogathon nesaf ;)
    Rhyfedd a chyn gymaint o flogwyr Cymraeg ar y we…….

  2. Sori, o’n i mewn hwyliau braidd yn gymysglyd erbyn y diwedd – ro’n i’n gwerthfawrogi bob sylw ces i yn ystod y 24 awr, a do’n i ddim am feirniadu neb. Ond mae rhaid gofyn “beth yw pwrpas y Blogathon?” Ai codi proffeil yr iaith ar y we, neu codi arian i achos da? ‘Swn i wedi blogio yn Saesneg, alla i fod wedi codi mwy o arian, dw i’n meddwl.

    Bydda i’n meddwl amdano yn ofalus cyn wneud ‘to.

  3. Fel’ma dwi’n gweld pethau , tydio ddim bwys pa iaith wyt ti’n ddefnyddio gan mai prif bwrpas y Blogathon ydi i gasglu arian tuag at achos da. Felly go for it ! :)

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi รข *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>