Mae Blogathon 2006 wedi’i lansio! Fel arfer, bydd cannoedd, os na miloedd o flogwyr o bedwar ban y byd yn blogio yn ddi-stop dros eu hoff elusennau, gan ddechrau am 2.00 y prynhawn (amser Cymru) ddydd Sadwrn 29ain o Orffennaf.

Os nag wyt ti wedi clywed o’r Blogathon cyn hyn, byddai’n werth darllen bach o hanes – mae’n stori rhyfeddol.
Eleni, bydda i’n blogio dros Gyfeillion y Ddaear Cymru – allwch chi fy noddi fan hyn, a bydda i’n dy garu dy am byth.
Wel, tan ar ôl y Steddfod, ta beth.
Byddai’n wych gwych gwych o beth ’sai criw o flogwyr Cymraeg yn cofrestru eleni. Dw i efo fy enw i lawr i fod yn gymedrolwr, a byddai’n lot well ’da fi gymedroli blogiau yn fy iaith fy hun. Am wn i, fi yw’r unig un sy wedi wneud y Blogathon yn Gymraeg hyd yn hyn.
Beth amdano?