Dim ond y merched

Blow-Up Doll – na, nid beth ti’n meddwl, y brwntyn, ond blog MP3 sy’n arbenigo mewn cantoresau pop o bedwar ban y byd, o’r 60au i’r 90au.

Un arall, tra bod ni gyda’r blogiau MP3: Splendida Project. Mae gyda nhw drac gan Agnetha Fältskog dw i ddim wedi’i glywed ers meityn, ond oedd yn arfer bod ar yr hen iPod. Ond mae fersiwn Ein Cilla Ni ’da fi o hyd (ac mae rhyw frith gof mod i wedi blogio am hyn o’r blaen – pa mor drist yw hynny?) Gan taw Cilla yw e, mae’n bach yn graplyd, ond mae ’na rhywbeth pathetig amdano hefyd. Ac mae oboe arno, sy’n marc safon bob tro, yn fy marn i.

Cilla Black – If I Thought I’d Ever Change Your Mind

  1. Wwww Nic…fe ddaeth cân Cilla Black ag atgofion yn ôl. Cofio mynd i Lundain ar wyliau pan yn blentyn a mynd i’w gweld hi yn y Palladium.
    Hyfryd iawn! Diolch am y linc.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>