Darllen am hwyl
Yn yr wythnos diwetha dw i wedi darllen mwy o lyfrau nag ydw i yn y ddau fis cyn hynny, gan dderbyn bod hi’n well darllen llawer iawn o stwff dw i’n joio, nag esgus darllen tipyn bach o stwff dw i ddim yn ei fwynhau. Felly, dwy nofel ac un nofel graffeg gan Neil Gaiman, ail-ddarllen nofel fach gan un o hoff awduron fy ieuenctid, Michael Moorcock, ac am y tro cyntaf, un o nofelau dreigiau Anne McCaffrey. Heddi, dw i wedi dechrau ar American Gods, nofel arall Gaiman, wedyn mae mwy o ddreigiau, a thrioleg Dawnswyr Ddiwedd Amser.
Da ‘di darllen.
Polaroids Tarkovsky
Cyhoeddwyd Tarkovsky’s Polaroids ym mis Mawrth eleni, a dim ond nawr dw i wedi archebu copi. Dyma enghreifftiau o’r lluniau ar wefan y Guardian.

Chwedyl y Kymro Kanol
Mae’n siwr bod wedi gweld blog y Kymro Kanol erbyn hyn, ond jyst rhag ofn.
Angen mwy o flogiau yn y wir hen iaith:
Ac eisted yr oedwn prynhawngweith yng Kaer Seint yn Aruon, neud, yn y tauarn yn kymryd llynn brau. Wele, yr oed y teledydd yn dangaws da raglenn pa le roed y Lloegrwys yn brywdraw Swetenn mewn gornest pel droet, a hynn eneit achaws ei uot yn Kwpann y Byt, a phop ffecyn tauarn yn dangos hynn. Eithyr, yr oedwn rhy uedw i gyuodi o’m ystol.
Gwychder.
Minging ym Monnaroo
Ar Stereogum heddi mae linc i MP3au sioe Bright Eyes yng Ngŵyl Bonnaroo, perfformiad oedd yn cynnwys ymddangosiad Gruff Rhys. Dw i wedi tynnu’r gân Super Furries, rhag ofn bod diddordeb ‘da rhywun sy ddim am lawrlwytho’r holl set (sy’n werth ei glywed).

Tacluso disg eich Mac
Dyma declyn defnyddiol i’r Macafalwyr yn eich mysh: Disk Inventory X, sef rhaglen sy’n edrych ar eich disg claed a dangos beth sy arno mewn un llun lliwgar. Wedyn, ti’n gallu symud dy lygoden dros y blociau i weld beth ydyn nhw, ac a oes modd i ti eu dileu. Dw i newydd clirio gigabeitiaid o gemau Neverwinter Nights, sawl bootleg mewn fformat AIFF dw i heb ddileu ar ôl llosgi’r CD, rhaglenni dw i byth yn eu defnyddio (rhai do’n i erioed wedi’u gweld o’r blaen), ond mae’n amlwg o hyd bod llawer gormod o stwff ‘da fi mewn un ffolder arbennig, sef yr un iTunes. MP3au yw tri chwarter o beth sy ar fy iMac. Heb bryd i mi fynd trwyddynt a chael gwared o bethau.

Dych chi’n gweld y bocs melyn, top chwith? Dyna fy nghasgliad Van der Graaf Generator. Tybed oes angen copi o bob bootleg VdGG ar fy nghyfrifiadur trwy’r amser?
Dim ond y merched
Blow-Up Doll - na, nid beth ti’n meddwl, y brwntyn, ond blog MP3 sy’n arbenigo mewn cantoresau pop o bedwar ban y byd, o’r 60au i’r 90au.
Un arall, tra bod ni gyda’r blogiau MP3: Splendida Project. Mae gyda nhw drac gan Agnetha Fältskog dw i ddim wedi’i glywed ers meityn, ond oedd yn arfer bod ar yr hen iPod. Ond mae fersiwn Ein Cilla Ni ‘da fi o hyd (ac mae rhyw frith gof mod i wedi blogio am hyn o’r blaen - pa mor drist yw hynny?) Gan taw Cilla yw e, mae’n bach yn graplyd, ond mae ‘na rhywbeth pathetig amdano hefyd. Ac mae oboe arno, sy’n marc safon bob tro, yn fy marn i.
Cilla Black - If I Thought I’d Ever Change Your Mind
Beirdd Da, Achos Da, Breuddwyd Da
Noson fendigedig yn y Llew Du, Aberteifi heno, yng nghwmni tri thîm o feirdd, sef Tanygroes, Crannog, a’r Glêr, yn ymrysona, a bois y Taeogion yn cadw trefn arnyn nhw. Nosweithiau felly sy’n fy nhynnu fi yn ôl i’r breuddwyd o fod yn Gymro, gan taw breuddwyd yw hynny o hyd, mewn ffordd.
Dydy hynny ddim yn wneud llawer iawn o sens. Dw i am chwarae poker.
Hanes cynnar yr internet Cymraeg
Mae gan Dafydd dau gofnod am hanes cynnar y we yn y Gymraeg o 1995.
Netscape! Botymau mawr! Times New Roman ym mhobman! Ddôs wêr ddy deis.
Pwy arall?
Who can bring us back to Paradise? Who can purge us of our sins? Who can put us right? Who can remind us what humans were like, back when there were humans? Who can turn us into an audience, rather than a bunch of actors playing the part of an audience?
Only Warren Oates.
Cyfnod newydd
Newydd gael galwad ffôn sy’n cynnig swydd i fi yn yr Urdd, i ddechrau tua diwedd mis Gorffennaf. Bydda i’n helpu gofalu am eu gwefannau, a chynorthwyo yn yr adran Gwybodaeth Technoleg. Bydd yn newid fawr i fi, gweithio llawn amser am y tro cyntaf ers gadael Caerdydd, a chyda criw o bobl, mewn swyddfa.
Pobl sy’n siarad Cymraeg yn well na fi.
*ofn*
Ond hefyd…
*cyffro*
Leafcutter John
Un o’r traciau ar y CD sy’n dod â’r Wire y mis ‘ma yw Let It Begin gan Leafcutter John. Hoffwn i glywed mwy ganddo fe, ond dw i wedi cyrraedd fy nghwota am CDiau newydd y mis ‘ma (oni bai bod rhywun yn prynu hysbyseb ar y maes, neu dw i’n cael y job newydd ar ôl y cyfweliad sy ‘da fi fory).

Ond yn lwcus iawn, mae Leafcutter John yn cynnig MP3au o albym cyfan fan hyn.
Mae Wire yn dod fy hoff gylchgrawn cerddoriaeth, a dw i ond yn difarru wnes i ddim tanysgrifio cyn hyn. Dw i’n licio bron popeth ar y ddau o’r pump CD ces i gyda fy nhanysgrifiad, a phan oedd y tro diwetha i ti ddweud hynny am CD gest ti ar glawr cylchgrawn? Weithiau dw i ddim hyd yn oed boddran datlapio CDiau Uncut a Mojo, yr unig cylchgronau cerddoriaeth dw i’n prynu yn gyson.
Erbyn hyn, mae’r MP3au wedi’u lawrlwytho, ac mae’r caneuon yn swynol iawn, os yn amrwd. Un i roi ar y rhestr am fis Gorffennaf.
Mwy o samplau MP3 fan hyn - dim ond rhyw munud a hanner o’r caneuon, ond ti’n cael y jist.
Y crys-t gorau. Er. I. Ôd.
Newydd ddod ar draws gwefan Mishka NYC, lle ffeindiais i’r crys-t isod. Sy bellach ddim ar gael. Ddim yn deg.

Llun o’r albym terfynol gan Big Black yw e, gyda theitl sy’n rhy blwmp ac yn rhy blaen i’w roi ar weflog deuluol, sef Songs About Fucking.
Nid gweflog deuluol yw Morfablog, wrth gwrs.
Wedi siarad am yr albym hyn o’r blaen yma, a dw i wedi bod yn ail-ymweld â lot o’r gerddoriaeth o’n i’n grando arni yn y coleg, diolch yn rhannol i albym newydd Sonic Youth. Mae YouTube wedi fy nhynnu wrth y gwddwf lawr lôn yr atgofion hefyd. Dyma Big Black yn wneud Fish Fry, er enghraifft.
A rhag ofn bod unrhywun heb eu clywed, dyma MP3 i chi:
Big Black - L Dopa.
A dyma fy hoff ddyfyniad Steve Albini:
Hey, breaking up is an idea that has occurred to far too few groups. Sometimes to the wrong ones.
Gan ein bod ni’n rhoi pethau i ffwrdd, dyma MP3 o fersiwn Gymraeg o un o ganeuon mwya cofiadwy Big Black:
Pop Negatif Wastad - Kerosene
A dyma Steve a’i gyfeillion wneud yr un gân, yn Saesneg, gyda gwaed.
Big Black. Hell of a band.
Radiohead ym Moston
Mae bradley’s almanac yn cynnig MP3au o sioe Radiohead ym Moston nos Lun diwetha. Ond brysiwch, byddant yn cael eu tynnu nos Wener.