Mae lot o hwyl i’w gael ar ddesg Minotaur Shock.
Archifau Misol: Mai 2006
Ffilmiau Bergman am £8
Dw i newydd sylwi bod Amazon yn gwerthu ffimiau Ingmar Bergman am £8 yr un. Dw i wedi archebu Seventh Seal, Wild Strawberries, Persona a’r Virgin Spring – oedd yn demptasiwn i gael lot mwy, ond dw i’n trial bod yn gall.
Scott Walker – The Drift
Mae albym newydd gan Scott Walker allan heddi. Mae swnio’n wych yn y clipiadau bach iawn (ond sieco’r fideo i Jesse) sydd ar gael ar y wefan, a dw i’n methu aros i gael copi.
Scott Walker. Mae ’na obaith.
Gwerthu mas neu fod yn gall?
Sut i wneud arian o’ch blog. Erthygl (Saesneg) sy’n wneud beth mae’n dweud ar y tun.
If you’re going to do this, then fully commit to it. Don’t take a half-assed approach. Either be full-assed or no-assed.
Dw i ddim yn gweld bod llawer o botenshial wneud arian ar flog Cymraeg, ond mae gyda fi wefan arall, sy’n cael rhyw 20K page views y dydd. Mae modd prynu hysbysebion ar maes-e, ond hyd yn hyn dw i wedi bod yn half-assed dros ben ynglŷn â wneud y gorau o’r cyfle yma. Fy mantra tragwyddol yw “rhaid i bobeth ddatblygu yn organig” – sy wedi gweithio yn dda yn achos tyfiant y wefan ei hunan, ond erbyn hyn mae angen rhywbeth arall.
If you’re going to request donations, then really request donations. Don’t put up a barely visible “Donate” link and pray for the best.
Ers i ni ddechrau Clwb Cefnogwyr maes-e mae rhyw hanner cant o bobl wedi dewis talu y £2 y mis dw i wedi gofyn amdano. Er mod i’n ddiolchgar iawn i’r bobl hynny, pam bod cynlleiad o’r dros 2000 o aelodau’r wefan wedi dewis ymuno?
Dw i wedi bod yn sôn am wneud bywoliaeth o’r we ers dros blwyddyn nawr, a dydy Plan B ddim yn gweithio ma’s yn dda iawn. Rhaid i mi stopio piso yn y gwynt a naill ai wneud rhywbeth positif, neu torri fy ngholledion a gwerthu maes-e i rywun fydd yn wneud rhywbeth gyda fe.
Beth dych chi’n meddwl?
CDs llychlyd
Wedi fy nhagio gan y Bachgen o Bontllanfraith, sy’n gofyn am CDs “yn y bocs dan y gwely”. Does dim bocs fel ’na ’da fi, yn anffodus, ond wrth symud tŷ yn lled diweddar rhaid oedd wneud sawl penderfyniad anodd, er mwyn ffito popeth mewn i dŷ llai. Llyfrau oedd yn y rhan fwya o’r bocsys aeth i Oxfam, ond ’na ni:
O’r CDs sydd yn eich casgliad, pa un sydd:
- Yn mynd i gael ei daflu i bydew du?
Cywilydd arna i am ddweud, ond y tri CD dw i wedi gwrando arnynt lleia oedd gan gerddor lleol sy’n chwarae offeryn esoterig. Wnes i bach o waith ar ei wefan, a wnaeth e fy nhalu mewn CDs “cerddoriaeth y byd”. Oedd hyn yn swnio yn deg ar y pryd. Never trust a hippie. - Yn dwyn gwên annisgwyl i’ch wyneb chi?
Pallas – The Sentinel. Aeth hyn yn y bocs Oxfam, ond am ryw rheswm rhoddais i fe ymlaen, ac es i syth yn ôl i 1984, blwyddyn oedd yn “cuspal” (cwsbaidd?) i mi a cherddoriaeth. Y flwyddyn ola i mi wrando ar prog roc (tan yn diweddar) a’r flwyddyn cyntaf i mi glywed bandiau fel y Jesus and Mary Chain a Sonic Youth. Do’n i ddim yn meddwl oedd hi’n bosibl i wrando ar ddwy fath o gerddoriaeth mor wahanol, ond erbyn hyn dw i’n gwybod yn well. Roedd hyn ’da fi ar feinyl, ac rhaid mod i wedi pig’r CD lan mewn sêl cist car rhywle, ond ro’n i heb wrando arno fe am 20 mlynedd, siwr o fod.Ddim un o fy hoff albyms prog, ond ’na ni. Falch mod i wedi ei gadw.
- Yn mynd i adennill ei briodle yn eich casgliad?
Dyw hyn ddim yn berthnasol iawn, ond mae sawl record sy ’da fi ar feinyl, neu oedd ’da fi, dw i wedi lawrlwytho fel MP3au, a thrwy hyn wedi mynd ymlaen i brynu’r blydi pethau eto ar CD. Eto, o fy mhlentyndod, pethau rawk ydyn nhw ar y cyfan. Er taw Zeppelin yw’r band roc “tradd” dw i’n gwrando arno mwya’r dyddiau ’ma, y band ro’n i’n caru mwya fel bachgen 13, 14 oed, oedd Sabbath, a fy hoff albym ganddyn nhw, yw… cwestiwn anodd… Vol. 4 – sydd, dw i newydd sylweddoli, ddim gyda fi ar CD. Felly dw i wedi wneud llanast o’r cwestiynau. Sori, Ger.
Ydw i fod i basio hyn ymlaen nawr?
Ray Diffycinota, gan ei fod e’n mynd i wneud e ta beth; Pat, gan ei fod e ar American Idol (!), a Dafydd, gan ei fod e’n casau pethau fel hyn, a gwynodd e amdano’r tro diwetha.
Losins!
Cofnod PingMag ar losins a thegannau o Siapan. Llawer o hwyl.
Aros am fy nysgwyr bore ddoe, yn festri capel Bethania, heb lot i wneud, es i drwy drar yn yr hen ddesg o’n i’n eistedd wrtho, a des i ar draws papurau Spangles a ches i drawiad hiraeth surfelys – ie, jyst fel y losin ei hunan.
Sbwci.
Mae’r papur yn fy waled nawr, jyt rhag ofn.
Trwy Number Six, blog brawd Mikal Dyas (isod).
Mikal Dyas
Cyrhaeddodd y CD soniais i amdano pwy diwrnod, Songs of Green Pheasant, ac mae’n swynol iawn. Mae ganddo glawr arbennig hefyd, gan yr argraffydd Mikal Dyas o ynys Guernsey. Ma’r llun ar y clawr yn dod o gyfres Y Saethwr – dyma fersiwn pendesg ohono.
Sut i goginio reis
Swnio yn syml? Dw i’n 39 oed a dw i’n dal i gael trafferth coginio reis. Dyma sut mae Niloufer King yn ei wneud.
Sut i gadw lan
Mae Kathy Sierra â chofnod hynod o ddiddorol am sut i “gadw lan”.
Yr ateb syml: ti ddim yn gallu, felly paid poeni amdano.
Daily Meil: Ailddylunio Blogger
Mae Mei yn postio cyfres ar sut i ailddylunio patrymlun Blogger (a dyma rhan 2. Cyflwyniad handi iawn i’r rhai sy ddim wedi mentro addasu golwg eu blogiau.
Sy’n f’atgoffa…
O wel, nid heddi.
