Sorto Bloglines

Tra mod i ati, dw i wedi mynd trwy fy holl ffolderi Bloglines a rhoi pob blog sy’n debyg i bostio rhywbeth a fydd o ddiddordeb mewn un ffolder newydd. Er ei fod e’n wych bod cymaint o bobl yn blogio yn y Gymraeg erbyn hyn, does dim digon o oriau yn y dydd i ddarllen popeth, heb sôn am y dros 100 blog MP3 dw i wedi tanysgifio iddynt, a gweddill y blogosphere Saesneg.

Mae’r ffolder newydd – #Dyddiol – yn ymddangos ar frig y rhestr ffolderi (gweler yr # yna?) ac yn cynnwys rhyw ddwsin o flogiau Cymraeg, tipyn bach mwy yn Saesneg, a sawl peth fel ffrydiau Flickr a PledgeBank. Y pethau dw i’n poeni am golli pan dw i’n gweld bod dros 1000 o gofnodion heb eu darllen a does dim dewis ond i ddefnyddio’r botwm panig Mark All Read.

3 thoughts on “Sorto Bloglines

  1. Ble mae blogs merched Cymru i’w gweld? Does bosib mai fi yw’r unig un sydd o gwmpas? Dwi wedi blino Gwglio heb ddod o hyd i’r un hyd yn hyn.
    Mae gennyf ddiddordebau dirifedi ac rwyf yn siarad ychydig am bopeth ond yn arbennig gwaith llaw modern, tecstiliau, arlunio, peintio, tynnu lluniau digidol a chamera a dylunio ar y cyfrifiadur. Digwyddiadau lleol a ffotograffi.
    Tybed a fedri fy helpu i ddod o hyd i rhywun a diddordeb yn rhywle. Mae gennyf ddwy flog Saesneg sydd yn reit lwyddiannus.

  2. Gweler sylwadau Rhys ar dy flog di, ond hefyd falle byddai’n werth i ti ymuno â maes-e, os nag wyt ti eisioes. Ffeindia di bob math o berson o berson yna. Merched, hyd yn oed. ;-)

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi รข *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>