France Gall a Serge Gainsbourg

France Gall – rhestr o 31 fideo gan y gantores “baby pop”. Roedd byd cerddoriaeth ysgafn yn Ffrainc yn y 60au yn eitha od. Rhywbeth i’w wneud â’r dyn ’ma, efallai?

Rhybudd – mae’r fideo isod yn weddol suggestive, ond mewn ffordd hollol diniwed.

3 thoughts on “France Gall a Serge Gainsbourg

  1. Dim i wneud a’r gerddoriaeth yn uniongyrchol, ond…
    Pan yn gweithio fel nani yn Llundain, bues am gyfnod yn gofalu am blant Andrew Birkin a’i wraig. Mae Andrew yn frawd i Jane Birkin.

    Beth bynnag, teulu difyr iawn oeddynt, a’i map hynaf Anno yn fachgen talentog iawn. Roedd yn ysgrifennu ac yn perfformio cerddoriaeth arbennig, ac roedd ganddo ddawn at ysgrifennu barddoniaeth.

    Yn drist iawn, ychydyg cyn ei benblwydd yn 21 fei laddwyd mewn damwain car erchyll yn yr Eidal. Roedd o ac aelodau arall o’i fand wedi mynd dramor i recordio albwm, ac ar y ffordd adref yn oriau man y bore yngnghanol niwl trwchus ar briffordd eidalaidd, cawsont ddamwain lle gollodd dri aelod o’r band eu bywydau.

    Teulu annwyl sy’n parhau i fod yn ffrindiau da ydynt, a lle yn parhau i fod yn fy nghalon i Anno.

    Felly efallai fod dylanwad Serge yn parhau i fyw hefyd trwy’r gerddoriaeth a’r barddoniaeth adawodd Anno ar ei ol.

    Dyma link difyr…
    http://www.anno.co.uk/telegraph.shtml

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>