Cyfarfod “Y Byd” yn Llundain

Dyma destun ebost ges i heddi, falle fydd o ddiddordeb i ddarllenwyr yn Llundain, os oes darllenwyr yn Llundain gyda ni.

Annwyl Gefnogwyr Y BYD,

Dyma neges i roi gwybod i chi am gyfarfod bydd yn cael ei gynnal gan Y BYD yn Llundain mis nesaf. Bwriad y cyfarfod fydd denu rhagor o gefnogaeth i’r fenter ac ennyn diddordeb ymysg Cymry yn Llundain – ac mae croeso mawr iawn hefyd i bobl sydd eisoes yn gefnogol.

Os ydych chi’n nabod unrhyw Gymry yn Llundain, neu unrhywun arall fyddai’n debyg o fod â diddordeb, tybed allech chi anfon y neges hon ymlaen atynt?

Dyma’r manylion:

7 o’r gloch, dydd Gwener 9 Mehefin, Royal Commonwealth Society, 25 Northumberland Avenue WC2N

“Y datblygiad pwysicaf i’r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlu S4C.” (Huw Edwards, BBC)

Dewch i ymuno â Ned Thomas a Rebecca Williams mewn cyfarfod dwyieithog i glywed am y fenter i sefydlu Y BYD – y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg.

Cynigir diod a bwyd ysgafn, felly byddai’n dda gennym gael gwybod o flaen llaw os ydych yn bwriadu dod.

Diolch am eich cefnogaeth,

Rebecca Williams, Swyddog Datblygu

Y Byd/Cwmni Dyddiol Cyf
Canolfan Mercator
Y Buarth
Aberystwyth SY23 1NN

Ffôn: 01970 621998
Ffacs: 01970 621524

Ydych chi’n aelod o’r Clwb Cefnogwyr? Ymunwch ar-lein heddiw!

http://www.ybyd.com

  1. Hmmmmmmmmmmmmmmmm…

    Roeddwn i’n siarad a un o brif olygwyr papurau newydd ym Mhrydain dydd o’r blaen, a’i ddamcaniaeth o oedd a fyddai’r Byd yn llwyddo. Yr ofn mawr yw na fydd y staff yn gwybod eu cyfraith a felly bydd y papur yn colli ei bres yn y llys; a does gan y papur ddim pres wrth gefn i dalu unrhyw costau llys.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>