1. Diolch am y plwg. Yn anffodus bydd rhaid ail-ddechrau gyda meddalwedd arall. Mae synaid Bitakora o weithio gyda tagiau yn apelio lot a’r ffaith bod y cwni tu ôl iddo fo o wlad y Basg yn awyddus i’w leoleiddio i sawl iaith, ond yn wahanol i Blogger rhaid deall tipyn mwy am raglennu ayyb sydd dros fy mhen i.

  2. Os wyt ti am ddefnyddio Blogger, mae’n bosibl ychwanegu côd tagiau Technorati yn y bocs Settings -> Formatting -> Post Template. Dw i wedi defnyddio fe fel hyn:

    <small>Tagiau: <a href=”http://technorati.com/tag/XXX” rel=”tag”>XXX</a> | <a href=”http://technorati.com/tag/XXX” rel=”tag”>XXX</a></small>

    …wedyn ti’n gallu copio a cludo’r côd i wneud mwy o dagiau, a dwbl glec ar y XXXiau, teipio’r geiriau ti moyn. Elli di ddefnyddio <span> yn hytrach na <small>, os wyt ti am fformato’r tagiau yn fwy, wrth gwrs.

  3. Diolch am yr uchod, dwi yn defnyddio tagiau technorati ar fy mlog yn achlysurol ac wedi dod ar draws teclyn o’r enw Technorati Tag Generator sy’n hwyluso pethau, ond beth oeddwn yn hoffi am Bitakora oedd fod o’n gadeal i’m tagiau ymddangos ar dudalen arbennig o fewn y blog (i fod) a hefyd mae rhywbeth tebyg i flogiadur ar gyfer holl wefannau Bitakora ble mae tagiau pawb yn ymddangos mewn cwnmwl tagiau.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>