Gwerthu mas neu fod yn gall?

Sut i wneud arian o’ch blog. Erthygl (Saesneg) sy’n wneud beth mae’n dweud ar y tun.

If you’re going to do this, then fully commit to it. Don’t take a half-assed approach. Either be full-assed or no-assed.

Dw i ddim yn gweld bod llawer o botenshial wneud arian ar flog Cymraeg, ond mae gyda fi wefan arall, sy’n cael rhyw 20K page views y dydd. Mae modd prynu hysbysebion ar maes-e, ond hyd yn hyn dw i wedi bod yn half-assed dros ben ynglŷn â wneud y gorau o’r cyfle yma. Fy mantra tragwyddol yw “rhaid i bobeth ddatblygu yn organig” – sy wedi gweithio yn dda yn achos tyfiant y wefan ei hunan, ond erbyn hyn mae angen rhywbeth arall.

If you’re going to request donations, then really request donations. Don’t put up a barely visible “Donate” link and pray for the best.

Ers i ni ddechrau Clwb Cefnogwyr maes-e mae rhyw hanner cant o bobl wedi dewis talu y £2 y mis dw i wedi gofyn amdano. Er mod i’n ddiolchgar iawn i’r bobl hynny, pam bod cynlleiad o’r dros 2000 o aelodau’r wefan wedi dewis ymuno?

Dw i wedi bod yn sôn am wneud bywoliaeth o’r we ers dros blwyddyn nawr, a dydy Plan B ddim yn gweithio ma’s yn dda iawn. Rhaid i mi stopio piso yn y gwynt a naill ai wneud rhywbeth positif, neu torri fy ngholledion a gwerthu maes-e i rywun fydd yn wneud rhywbeth gyda fe.

Beth dych chi’n meddwl?

This entry was posted in Heb Gategori and tagged , , . Bookmark the permalink. Trackbacks are closed, but you can post a comment.

5 Comments

  1. Posted Mai 5, 2006 at 1:31 pnawn | Permalink

    Hysbysebion ar flog Cymraeg – ddim werth bothran dwi’n siwr

    Hysbysebion ar maes-e – potensial da, mae’r maes dal yn unigryw (yn anffodus efallai o safbwynt y Gymraeg) ond i gwmniau fel Sain, Cowbois, Sebon, Spillers, Y Lolfa mae’n gyfle hysbysebu unigryw a rhad. Wedyn mae gyda ti hysbysebwyr llai amlwg fyddai efallai’n ystyried y peth ond sydd ddim yn gwybod bod y fath beth yn bodoli. (siop ar-lein Undeb Rygbi Cymru, cwmni teithio i gemau tramor tîm Rygbi/Pêl-droed Cymru.

    Clwb cefnogwyr – Mae 50 o 2,000 yn adlwyrchiad gweddol gywir o’r ratio o Gymry Cymraeg sy’n fodolon gwnud rhywbeth/cyfrannu i’r mwyfarif sy’n dewis peidio a jyst cwyno. Mae cymaint o bethau ar y we am ddim, mae’r syniad o dalu yn estron. Dwi’n defnyddio sawl gwefan am ddim ac efallai wedi cyfrannu rhyw £1-2 one off i 2 neu dri ohonynt, ond dyna fo. Yn amlwg os yw gwefan yn Saesneg a gyda cannoedd o filoedd yn ei ddefnyddio, mae cyfraniadau bach fel hyn yn adio fyny hyd yn oedd os mai on 2.5-5% sy’n trafferthu gwneud. Mae talu i ddefnyddio negesfwrdd wedyn yn fwy unigryw fyth dybiwn i?

    Ti, maes-e a’r dyfodol
    Pan ddechreuaist maes-e oeddet ti’n dychmygu byddai mor boblogaid,ac yn meddwl byddai’n golygu cymaint o waith/stress? Dychmyga ei fod wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran beth oedd dy fwriad gwreiddiol, ond rwan mae’n ychydig o fwrn a mae llai o fwynhad i’w gael ohono? Byddai incwm cyharol dda (tipyn mwyn na £100 y mis) yn gwneud ti deimlo’n wahanol efallai.
    Hwyrach nad yw maes-e yn fodel addas ar gyfer cynhyrchu incwm, dwyt ti ddim yn gwerthu dim byd (roedd crysau-T ddim wedi gweithio) a dwi ddim yn siwr os alli di ei alw’n wasnaeth (yn wahanol i Flickr, Blogger SuprGlu, Bloglines)

    Dwi o’r farn gallet gwneud bywoliaeth o’r wê yn Gymraeg (neu’n ddwyieithog) ond byddai rhaid cael cyfuniad o bethau, gyda maes-e yn rhan ohono ac yn gallu complimentio rhyw wasanaeth/cynyrch arall.

    Soniais ar fy mlog am y syniad o flogwrdd yn ystod yr Eisteddfod, rhwybeth anffurfiol, ond gyda bach mwy o bwynt na pharti ‘maes-e’. Dwi’n rhy swil/diflas i ddod i un o’r rhain ;-) , ond bydde diddordeb gyda fi drfod syniadau fel blogio a busnesau ar y wê dros beint/coffi. Gelli’r unai cael rhywbeth ar y maes neu rhwyle arall. Cyfle i rannu syniadau ac efallai gwahodd y wasg i drio codi ymwybyddiaeth blogio [ond dwyt ti DDIM yn cael ymddangos ar Wedi7 nac yn Golwg, rhaid i eraill gael cyfle!]
    Oes diddordeb?
    Synaid busnes, cael hanner dwsin o laptops mewn stafell a codi £5 y pen am fynediad!! Cyflwyniad gan y blogwyr mwya Techie fel ti Dafydd, Aled

  2. Posted Mai 6, 2006 at 5:02 bore | Permalink

    Mae’n anodd iawn i meddwl am sut i ddweud hyn yn y Gymraeg, ond dw i’n gweithio mewn y byd rhyngrwyd, a dw i’n meddwl bod mae ‘limited potential’ gyda bwrdd neges. Dydy’r sefyllfa ddim yn ‘conducive’ i lawer o defnyddwyr.

    Rwt ti’n cynnig gwahaniaeth gwych, dw i’n meddwl, ond dw i ddim yn gwybod bod yna’n llawer o arian i wneud allan o bwrdd neges.

    Os wyt ti’n tynnu digon o arian i gadw’r peth yn mynd, fe ddylet ti’n jyst yn dweud wrth dy hun dy fod ti’n gwneud dy ddarn i gwthio’r iaith ymlaen.

  3. Ifan
    Posted Mai 6, 2006 at 9:49 pnawn | Permalink

    Nid faint o bobl sy’n ymweld a dy wefan di fydd yn gwneud dy ffortiwn ond y math o bobl sy’n ymweld. Mae Maes-E yn cael 20k page views y dydd, ond mae’r mwyafrif o’r rheini gan blant 15-25 sydd ddim a unrhyw fath o bres i’w wario. Mae’r cynnyrch sy’n cael ei anelu at y gynulleidfa yma wedi ei greu ar bris isel iawn ac yn cael ei hysbysebu drwy ‘word of mouth’ – neu greu edefyn.

  4. Posted Mai 8, 2006 at 3:45 pnawn | Permalink

    Ymddiheuriadau at Linda, wnaeth hi bostio’r isod ddydd Sadwrn, gafodd e ei ddal yn y sustem cymedroli, ac wedyn wnes i ei ddileu gyda sbam y penwythnos :wps:

    ============================================
    Dwedodd Linda:

    Mae’n amlwg dy fod wedi cyrraedd amser i wneud penderfyniad un ffordd neu’r llall Nic. Debyg os fasa ‘na fwy o faeswyr wedi ymuno â Chlwb y Cefnogwyr, mi fasa’r penderfyniad yna yn un hawsach i ti.
    Dwi ‘di sylwi fod y nifer negeseuon yn isel mis diwethaf i gymharu a misoedd eraill , ac er fy mod wedi bod yn y deg uchaf o’r defnyddwyr mwyaf swnllyd yn ystod y mis , digon distaw oedd hi ar y maes ar sawl achlysur.

    A wyt ti wedi ystyried dy blan di o ail agor y maes i ddefnyddwyr newydd, a fod pob un sydd yn ymaelodi yn talu i fod yn gefnogwr? Dwi’n siwr y basa fo wrth ei drio am gyfnod penodol o amser ….wedyn oleiaf fe fyddi di’n gwybod sefyllfa Clwb y Cefnogwyr.

    Fel dywedodd Rhys yn gynharach, mae ‘na botensial mawr i hysbysebion ar Maes-e, a dwi’n siwr bod ‘na lot mwy o gwmniau fasa’n neidio am y cyfle i hysbysebu ar safle sydd yn cael ’20K page’ views y dydd.
    Ynglŷn a dy feddyliau am werthu’r maes i rywun arall [ gwenoglun braw!], dy benderfyniad di fydd hynny. Yn bersonol, dwi’n gobeithio y gwnei di gario mlaen , ond mi gytunaf efo Rhys fod angen gwasanaeth/cynyrch arall yn ogystal a’r Negesfwrdd ei hun os wyt ti am wneud bywoliaeth o’r we.

    Dwi ‘di bod yn edrych ar y safle yma dros y mis diwethaf :
    http://www.infotecbusinesssystems.com/wildlife/default.asp
    Wedi cychwyn o syniad athro wedi ymddeol, sydd yn byw ar Ynys Hornby [ ddim ymhell o fama] . Fo ddaru osod y webcam , yna linc o safle Mountainaire Avian Rescue Society, lleol eto, cwmni Infotec o Vancouver yn gyfrifol am yr hysbysebion, ac o fewn ychydig amser yn unig datblygwyd forwm ganddynt,a’r canlyniad…..yr ail safle we mwyaf poblogaidd drwy’r byd!

    Dwi’m yn dy gynghori di i anelu mor uchel a hyn chwaith ;) , ond jyst i ddangos sut mae gwasanaeth /cynyrch yn medru bod yn llwyddianus.
    Mae maes-e yn unigryw , a dwi’n meddwl ei fod yn haeddu help / rhywfath o grant ella gan fusnes /gwmni adref. Dwn i ddim os ydi hyn yn bosibl?

    Jyst hel meddyliau ar fore Sadwrn dwl….

  5. Posted Mai 8, 2006 at 6:27 pnawn | Permalink

    Ydio werth datblygu y darn ‘Siop Pete’ – fel fod y maes yn cael canran o unrhywbeth sydd yn cael ei werthu ? Rhyw fersiwn syml o ebay / freecycle / ‘personal ads’ math o beth ?!

    Neu beth am hybu y gwasanaeth o gael hysbysebion ar y maes drwy ebostio cwmniau cymraeg, gan ddyfynnu dy ffigyra fel 20k iw atynu ?

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar