Wedi fy nhagio gan y Bachgen o Bontllanfraith, sy’n gofyn am CDs “yn y bocs dan y gwely”. Does dim bocs fel ‘na ’da fi, yn anffodus, ond wrth symud tŷ yn lled diweddar rhaid oedd wneud sawl penderfyniad anodd, er mwyn ffito popeth mewn i dŷ llai. Llyfrau oedd yn y rhan fwya o’r bocsys aeth i Oxfam, ond ‘na ni:
O’r CDs sydd yn eich casgliad, pa un sydd:
- Yn mynd i gael ei daflu i bydew du?
Cywilydd arna i am ddweud, ond y tri CD dw i wedi gwrando arnynt lleia oedd gan gerddor lleol sy’n chwarae offeryn esoterig. Wnes i bach o waith ar ei wefan, a wnaeth e fy nhalu mewn CDs “cerddoriaeth y byd”. Oedd hyn yn swnio yn deg ar y pryd. Never trust a hippie. - Yn dwyn gwên annisgwyl i’ch wyneb chi?
Pallas – The Sentinel. Aeth hyn yn y bocs Oxfam, ond am ryw rheswm rhoddais i fe ymlaen, ac es i syth yn ôl i 1984, blwyddyn oedd yn “cuspal” (cwsbaidd?) i mi a cherddoriaeth. Y flwyddyn ola i mi wrando ar prog roc (tan yn diweddar) a’r flwyddyn cyntaf i mi glywed bandiau fel y Jesus and Mary Chain a Sonic Youth. Do’n i ddim yn meddwl oedd hi’n bosibl i wrando ar ddwy fath o gerddoriaeth mor wahanol, ond erbyn hyn dw i’n gwybod yn well. Roedd hyn ’da fi ar feinyl, ac rhaid mod i wedi pig’r CD lan mewn sêl cist car rhywle, ond ro’n i heb wrando arno fe am 20 mlynedd, siwr o fod.Ddim un o fy hoff albyms prog, ond ‘na ni. Falch mod i wedi ei gadw.
- Yn mynd i adennill ei briodle yn eich casgliad?
Dyw hyn ddim yn berthnasol iawn, ond mae sawl record sy ’da fi ar feinyl, neu oedd ’da fi, dw i wedi lawrlwytho fel MP3au, a thrwy hyn wedi mynd ymlaen i brynu’r blydi pethau eto ar CD. Eto, o fy mhlentyndod, pethau rawk ydyn nhw ar y cyfan. Er taw Zeppelin yw’r band roc “tradd” dw i’n gwrando arno mwya’r dyddiau ’ma, y band ro’n i’n caru mwya fel bachgen 13, 14 oed, oedd Sabbath, a fy hoff albym ganddyn nhw, yw… cwestiwn anodd… Vol. 4 – sydd, dw i newydd sylweddoli, ddim gyda fi ar CD. Felly dw i wedi wneud llanast o’r cwestiynau. Sori, Ger.
Ydw i fod i basio hyn ymlaen nawr?
Ray Diffycinota, gan ei fod e’n mynd i wneud e ta beth; Pat, gan ei fod e ar American Idol (!), a Dafydd, gan ei fod e’n casau pethau fel hyn, a gwynodd e amdano’r tro diwetha.
Un Sylw
Mae’n iawn. Roedd hi’n anodd llunio cwestiynau fyddai wir yn gallu bod yn berthnasol, felly jyst moyn ennyn trafodaeth/pyrfio cerddorol o’n i.