Cofnod PingMag ar losins a thegannau o Siapan. Llawer o hwyl.
Aros am fy nysgwyr bore ddoe, yn festri capel Bethania, heb lot i wneud, es i drwy drar yn yr hen ddesg o’n i’n eistedd wrtho, a des i ar draws papurau Spangles a ches i drawiad hiraeth surfelys – ie, jyst fel y losin ei hunan.
Sbwci.
Mae’r papur yn fy waled nawr, jyt rhag ofn.
Trwy Number Six, blog brawd Mikal Dyas (isod).

Mochyn. Ti newydd gyfaddef i ddwyn o gapel!!!
Un brwnt wyt ti.
Mae hyn yn wir. Lwcus bod Duw ddim yn darllen fy mlog.
OND MI YDWI… A MI GEI DI WOTFFOR!!!