Torri Morfablog
Newydd ddiweddaru WordPress, o’r diwedd, felly, wrth gwrs, mae popeth yn draed moch.
Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion.
Cordelia, Alan Jenkins, a’r Deep Freeze Mice
Cewch werth CD o MP3au am ddim o gwmni Cordelia. Des i ar draws enw band dw i heb glywed ers oesoedd, The Deep Freeze Mice - mae un albym ‘da fi ganddyn nhw, sef yr un gyda’r teitl ardderchog I Love You Little Bo Bo with Your Delicate Golden Lions (llinell o gerdd Alan Ginsburg, fact fans).
Braf i glywed bod Alan Jenkins, gitarydd gyda’r Llygod, dal i wneud cerddoriaeth wych, seicadelig, gyda ei fand newydd Thurston Lava Tube.
Podlediad Mogwai
Mogwai yw’r band cyntaf dw i wedi draws eu traws gyda podlediad go iawn, lle maent yn postio traciau prin a phethau byw. Mae’n hollol hyfryd, ac yn ffordd wych o hybu diddordeb yn y band.
Oes bandiau eraill sy’n wneud podlediadau?
Beth sy mewn enw?
Yn ôl hyn mae dysgu.com yn werth $18,000.
Woah.
Parth ar werth.
Mae maes-e.com yn werth bron $70,000. Dw i’n amau hynny’n fawr.
Faint yw gwerth eich parth chi?
Cynllun Iaith RSPB Cymru
Bues i’n siarad â dysgwraig heddi am RSPB Cymru. Dwedodd hi bod eu cylchgrawn “Barcud” yn hollol ddwyieithog. Braf clywed, ac hefyd gweld ar eu gwefan bod cynllun iaith.
Oes ‘na un elusen Prydeinig gyda pholisi iaith fel hyn?
Sorto Morfablog
Symleiddio, symleiddio, symleiddio. Wedi cael gwared o gwbl o’r blociau ar y dde, wedi dewis yr opsiwn “un blog ar hap” o’r Rhithfro yn lle y rhestr llawn, ac wedi symud pethau o gwmpas. Hoffwn i ail-wampio popeth, ond am wn i, mae pethau yn gweithio yn iawn ar hyn o bryd, a dw i ddim eisiau torri dim byd.
Sorto Bloglines
Tra mod i ati, dw i wedi mynd trwy fy holl ffolderi Bloglines a rhoi pob blog sy’n debyg i bostio rhywbeth a fydd o ddiddordeb mewn un ffolder newydd. Er ei fod e’n wych bod cymaint o bobl yn blogio yn y Gymraeg erbyn hyn, does dim digon o oriau yn y dydd i ddarllen popeth, heb sôn am y dros 100 blog MP3 dw i wedi tanysgifio iddynt, a gweddill y blogosphere Saesneg.
Mae’r ffolder newydd - #Dyddiol - yn ymddangos ar frig y rhestr ffolderi (gweler yr # yna?) ac yn cynnwys rhyw ddwsin o flogiau Cymraeg, tipyn bach mwy yn Saesneg, a sawl peth fel ffrydiau Flickr a PledgeBank. Y pethau dw i’n poeni am golli pan dw i’n gweld bod dros 1000 o gofnodion heb eu darllen a does dim dewis ond i ddefnyddio’r botwm panig Mark All Read.
Sorto Gmail
Bach o lanhâd y gwanwyn y bore ‘ma. Roedd fy nghyfrif Gmail wedi dod yn anhaclus iawn, gyda dros 20 label, y rhan fwya ohonyn nhw sy ddim yn cael eu defnyddio’n aml. Mae popeth wedi berwi lawr i:
- negeseuon sy’n cynnwys tasg mae rhaid i mi gwblhau. Weithiau dw i’n defnyddio hyn fel bac-yp i’r rhestr “pethau i’w neud” sy ‘da fi yn iCal - ebostio atgoffiad at fy hun, a gadael fe ‘ma nes i mi wneud y tasg.- @ros - negeseuon sy’n cynnwys rhywbeth mae rhaid i rhywun arall gwblhau. Mae hyn yn cynnwys pethau dw i wedi archebu o eBay, Amazon, Sebon, beth bynnag, ond sy heb gyrraedd eto. Mae’r “@” yn y label yn gorfodi hyn i ymddangos ar frig y rhestr labeli.
- Blog - caiff negeseuon “Google Alerts” a’u tebyg eu hidlo yn awtomatig i fan hyn i’w hatal rhag tagu fy mewnflwch. Pan dw i’n digwydd sylwi bod mwy na rhyw hanner dwsin o negeseuon heb eu darllen yna dw i’n cael cip.
- Cadw - mae popeth yn cael ei gadw ar Gmail, wrth gwrs, ond mae hyn am bethau dw i am wneud yn siwr dw i byth yn eu dileu. Cyfrineiriau, a phatrymluniau negeseuon dw i’n anfon yn aml, ar y cyfan.
- Freecycle - negeseuon o’r tri grŵp Freecycle dw i’n aelod ohonyn. Eto, jyst i gadw’r stwff o’r mewnflwch yw hyn.
Mae popeth arall yn dod i mewn fel arfer, a dw i’n clirio’r mewnflwch bob dydd. Os ydy hi’n bosib ymateb i neges o fewn 2 funud, dw i’n neud e yn syth (fel arfer). Os na, a dw i ddim yn gallu neud e heddi, mae’n cael seren ac mae’n mynd ar y rhestr “pethau i’w neud”.
Dw i’n casau gweld llawer o negeseuon yn y mewnflwch, ac yn methu deall pam mae cymaint o bobl yn gadael i’w mewnflwch mynd mor lawn. Mae un fy mam ag o leia 200 o negeseuon, y rhan fwya heb eu darllen, bob tro dw i’n digwydd ei weld. Oes rhyfedd dw i ddim yn boddran ei hebostio hi bellach? Dw i’n wgybod yn iawn na fydd hi’n gweld y neges, oni bai mod i’n ei ffonio i ddweud mod i wedi sgwennu ati. Man a man jyst ei ffonio hi gyda’r neges.
Cofnodion 43 Folders ar “Inbox Zero”. Llawn o gyngor da, hanfodol os ti’n byw ar y we. Pethau fel hyn, o’r cofnod Delete, delete, delete (or, “Fail faster”):
Just remember that every email you read, re-read, and re-re-re-re-re-read as it sits in that big dumb pile is actually incurring mental debt on your behalf. The interest you pay on email you’re reluctant to deal with is compounded every day and, in all likelihood, it’s what’s led you to feeling like such a useless slacker today.
Mewn geiriau eraill, os ti ddim yn mynd i wneud e nawr, a ddim yn debyg i’w neud e heddi, ydy hi’n well i dorri dy golledion a chael gwared ohono fe y funud hon?
Sut wyt ti’n cadw trefn ar dy ebost?
Apple wedi fy ngwasgu
Ar ôl dwy flynedd, mae fy iPod 4G wedi marw.
Pris i’w drwshio: £166
Pris prynu un newydd, lliw, fideo: £219
Bastads.
A bydd yr un newydd yn ddu.
Bastads clyfar.
Jacques Brel - Amsterdam
Y bont rhwng opera mawr a phync roc? Yn 1962? Yng Ngwlad y Belg?
Iesu bach, o’n i wedi clywed bod fersiynau Scott Walker yn gysgod gwân o’r gwreiddiol, ond nes bo chi’n gweld Brel yn perfformio mae’n anodd credu.
Zonaindie
Blog MP3/fideo yw Zonaindie, llaw top o artistiaid o America Lladin.
Cyfarfod “Y Byd” yn Llundain
Dyma destun ebost ges i heddi, falle fydd o ddiddordeb i ddarllenwyr yn Llundain, os oes darllenwyr yn Llundain gyda ni.
Annwyl Gefnogwyr Y BYD,
Dyma neges i roi gwybod i chi am gyfarfod bydd yn cael ei gynnal gan Y BYD yn Llundain mis nesaf. Bwriad y cyfarfod fydd denu rhagor o gefnogaeth i’r fenter ac ennyn diddordeb ymysg Cymry yn Llundain - ac mae croeso mawr iawn hefyd i bobl sydd eisoes yn gefnogol.
Os ydych chi’n nabod unrhyw Gymry yn Llundain, neu unrhywun arall fyddai’n debyg o fod â diddordeb, tybed allech chi anfon y neges hon ymlaen atynt?
Dyma’r manylion:
7 o’r gloch, dydd Gwener 9 Mehefin, Royal Commonwealth Society, 25 Northumberland Avenue WC2N
“Y datblygiad pwysicaf i’r cyfryngau Cymraeg ers 1982 a sefydlu S4C.” (Huw Edwards, BBC)
Dewch i ymuno â Ned Thomas a Rebecca Williams mewn cyfarfod dwyieithog i glywed am y fenter i sefydlu Y BYD - y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg.
Cynigir diod a bwyd ysgafn, felly byddai’n dda gennym gael gwybod o flaen llaw os ydych yn bwriadu dod.
Diolch am eich cefnogaeth,
Rebecca Williams, Swyddog Datblygu
Y Byd/Cwmni Dyddiol Cyf
Canolfan Mercator
Y Buarth
Aberystwyth SY23 1NNFfôn: 01970 621998
Ffacs: 01970 621524Ydych chi’n aelod o’r Clwb Cefnogwyr? Ymunwch ar-lein heddiw!
http://www.ybyd.com
France Gall a Serge Gainsbourg
France Gall - rhestr o 31 fideo gan y gantores “baby pop”. Roedd byd cerddoriaeth ysgafn yn Ffrainc yn y 60au yn eitha od. Rhywbeth i’w wneud â’r dyn ‘ma, efallai?
Rhybudd - mae’r fideo isod yn weddol suggestive, ond mewn ffordd hollol diniwed.
Fideos Datblygu
Mae gyda ni adran fideos ar Beibl Datblygu - diolch i Dafydd, sy wedi bod ati lanlwytho stwff i YouTube.
Dw i wedi bod yn dawnsio o gwmpas y swyddfa ‘ma fel Snwpi ar spîd cwn.
Wastraf hanner awr
Gêm fach fflach - dim ond 4 lefel i’w datrys, diolch byth.
Tynna fy cordyn, bêbi - un ofnadwy. Cyrhaiddais i lefel 8 cyn rhoi’r gorau.
Ond fy ffefryn heddi yw… Sushi Samari. Hai!
Wedi wneud cymaint o waith papur heddi, oedd angen rhywbeth fel hyn.
Siwperi Secsi
(Falle ddim yn saff i’r gweithle, ond am wn i, mae’n rhy ryfedd i gyfri fel porn go iawn. Sa i’n gwybod.)
Casgliad Flickr o “sweater bondage”, sef categori o ffetish dw i heb glywed amdano hyd yn hyn.
Ylp.
YouTube - MOMYFGNOW
YouTube - MOMYFGNOW. Sleifar a Chef yn wneud eu stwff yn stiwdios Maida Vale.
Diolch i penn bull, ar y maes.
Caerdydd Gwyrdd
Caerdydd Gwyrdd - blog newydd gan Rhys Wynn am fod yn wyrdd, yng Nghaerdydd.
Genod Droog, droog
Ydw, dw i wedi plygu i’r drefn.
Gwyl Fawr: Deddf Iaith Newydd - Dyma’r Cyfle!
Dewch ymlaen bois, oes esgus i beidio bod ‘na?
Edrych, mae Angharad wedi neud llun bach neis:
Next Page »