Fel dw i wedi sôn o’r blaen, heno oedd yn noson i edrych ymlaen iddi hi, gyda’r ail o Geginau Ceri Rhys yn ein Theatr Mwldan ni, ac hon yng nghwmni’r ddai Islandwr, Hilmar Örn Hilmarsson a Steindór Andersen. Mae Steindór yn arbennig yn y grefft o rimur, sef dull traddodiadol o lafarganu – fe yw cadeirydd (?) Iðunn, rhyw fath o gymdeithas cerdd dant Gwlad yr Iâ. Mae’r ddau Islandwr wedi recordio gyda Sigur Rós, ac mae enghreifftiau o waith Steindór ar gael ar gael yma.

Sôn am SR, mae lot o bethau ar gael yma a fan ‘co ganddyn nhw. Braf gweld band sy’n helpu eu ffans dod ar draws recordiadau byw ohonynt.
helo nic, ie fel ti’n gweud, iðunn yw cymdeithas canu rimur ac hefyd enw ei llong bysgota ac hefyd un o’i ferched
ma hilmar wedyn wedi gweitho gyda bjork yn y grwp the elgar sisters ac ar ben y cwbwl fe yw arch pagan island, fel math o arch esgob reykjavík
Welais i rywle ei fod e wedi recordio gyda Psychic TV hefyd – oedd e ar y sengl “Godstar” (it’s about Brian Jones, one of the Rolling Stones).
Dyn bishi.
Mae gen i bwtleg o’r perfformiad wnaeth y ddau ohonyn nhw gyda Sigur Ros, Odin’s Death Crow, sy’n werth tracio i lawr.