Beth sy ar y stereo, Nic?

Wel, diolch yn fawr am ofyn. Mae eitha lot o “werin newydd” bondigrybwyll. Ces i CD Chris Wood wythnos diwetha, ac mae’n fendigedig ac hyfryd. Mae e’n chwarae yng Nghegin Ceri yn y Mwldan mewn cwpl o wythnosau a dw i’n methu mynd, gan ei fod ar yr un noson â dosbarth, dosbarth all fod yn rhan o arolwg Estyn, yn anffodus, felly dydy ei ail-drefnu ddim yn opsiwn. Falle a’ i am yr ail hanner.

Es i i weld Sir Billy of Barking wythnos ’ma, gyda hen ffrind o’r Waun. Oedd yr hen Bill yr hen Bill – ydy e am dorri record Meic Stevens am beidio sgwennu cân newydd werth ei glywed? O leia wnaeth e encore llawn hwyl ac heb bregeth – pob cân o’i albym cyntaf. Ond pleser mwya y noson, ar wahan i fynd ar goll yn Lerpwl ar ôkl y gig, oedd Seth Lakeman, folkie ifanc o Gernyw.

Dyn ni’n dal i wrando ar lot o Defi Banhart yma ym Mro Delyn, ac yn difaru ei golli pan fuodd e yng Nghaerdydd yn diweddar. Tro nesa.

Ond ar y funud hon, dw i’n gwrando ar draciau oddi ar yr albym Songs of Green Pheasant gan Duncan Sumpner, athro o Sheffield a wnaeth recordio’r albym yn ei gegin.

O’r gorau, dw i wedi gwrando ar hwnna, nawr dw i’n gwrando ar Living With War, albym newydd Neil Young, sydd ar gael i bawb cael gwrando… yma… nawr…

(Sori, dyw e ddim – sgript ddim yn gweithio – tria hwn. Mae’n reit dda.)

Pump

Dyn ni’n mynd i Abertawe heddi a thros nos, a bydd ffrindiau yn dod ’ma fory, felly fydda i ddim yn gallu blogio, siwr o fod, ond o’n i jyst am ddweud, er ei fod yn ddiwrnod yn gynnar:

Penblwydd Hapus i Morfablog!

Pum mlynedd, och.

Hybu tafodieithoedd Inuit

Erthygl ddiddorol yn Nunatsiaq News sy’n sôn am bwysigrwydd tafodieithoedd Inuit. Fel gyda llawer o bethau ym maes TSI, byddai’n hawdd iawn i roi’r gair “Welsh” i mewn am “Inuit”.

At present, many Inuit use English when they meet someone who speaks a different dialect, the author of the report notes in a summary of the report. But this is likely a symptom of the erosion of Inuit languages in general, and not a sign that dialects are mutually incomprehensible.

Mae myth bod Gogleddwyr a Hwntws ddim yn gallu deall ei gilydd yn parhau’n gryf yng Nghymru, yn enwedig ymysg pobl di-Gymraeg falle. Yn aml iawn, mae pobl yn dod i ddosbarth Wlpan wedi byw yng Nghymru am sawl blwyddyn, ac maen nhw wedi llyncu’r myth hwn, diolch i’w cymdogion Cymraeg, sy’n ymfalchïo yn y “ffaith” bod eu hiaith nhw mor arbennig o anodd i ddysgu a’i deall.

Yscolan a Rímur

Fel dw i wedi sôn o’r blaen, heno oedd yn noson i edrych ymlaen iddi hi, gyda’r ail o Geginau Ceri Rhys yn ein Theatr Mwldan ni, ac hon yng nghwmni’r ddai Islandwr, Hilmar Örn Hilmarsson a Steindór Andersen. Mae Steindór yn arbennig yn y grefft o rimur, sef dull traddodiadol o lafarganu – fe yw cadeirydd (?) Iðunn, rhyw fath o gymdeithas cerdd dant Gwlad yr Iâ. Mae’r ddau Islandwr wedi recordio gyda Sigur Rós, ac mae enghreifftiau o waith Steindór ar gael ar gael yma.

Marwolaeth Sonig

Sonic Death – newydd ddod ar draws hyn ar Soulseek. Dw i siwr o fod heb ei glywed ers 18 mlynedd, ond mae caset rhywle o gwmpas y lle. Rhyfedd, ond mae’n swnio yn fwy cyfoesol nag unrhywbeth dw i wedi clywed gan SY ers y 90au. Yffarch.

Fy Mlwyddyn Poker

Dw i wedi dechrau blog bach arall i gadw record o fy mlwyddyn poker. Dw i’n ffeindio ei fod e o help i fi i sgwennu pwt am bob gêm dw i’n chwarae ynddi, yn ogystal â chadw trac o beth dw i’n ennill a cholli, ond dw i ddim yn gweld y byddai hyn o ddiddordeb i’r rhan fwya o ddarllenwyr Morfablog, felly y penderfyniad i’w gadw ar wahan.