Ai dim ond fi yw e, ond ydy “Geneve” (MP3, 7.6MB), sef MPfree yr wythnos gan y trwbadŵr un-hit John Otway, yn swnio tipyn bach fel “Five Years” David Bowie?
Sy ddim yn beth drwg, gan taw honna yw fy hoff gân y Dug Gwyn Tenau.

Newydd weld David Choe. Mae’n llawn egni anhygoel, ysbrydoledig iawn. Dyma rai o’i luniau.

Yscolan – blog newydd gan Ceri Rhys Matthews. Dylai fod yn ddiddorol.
Edrych ymlaen hefyd at y cyfres o ddigwyddiadau cerddorol yn Theatr Mwldan dan ofal Ceri. Mae’n debyg bydda i’n colli’r un cyntaf, pan bydd Ceri yn cyflwyno y pibydd o’r Alban Allan MacDonald – mae hyn ar yr un noson ag Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion – ond dw i’n edrych ymlaen yn arw at ymweliad Steindoór Andersen a Hilmar Örn Hilmarsson, dau gerddor o Wlad yr Iâ, i’n theatr fach ni ar y 12fed o Ebrill.