Fideo o raglen Bandit neithiwr: Jakokoyak – Canada.
Mae Rhys dal un o’m ffefrynnau ar y sîn Gymraeg anglywadwy. Gwelais i fe yn Steddfod Casnewydd, ond oedd hi bron yn amhosibl ei glywed – enghraifft perffaith o daflu perlau o flaen moch. Dim ond fi, Criddle ac un neu ddau arall hyd yn oed trîal gwrando ar y boi; pawb arall yn dal i fyny gyda eu mêts a’u ciwion.
Ta beth am hynny, mae’r EP newydd ar gael nawr, mae’r safle MySpace yn cynnwys clips bach o’r CD cyntaf, a lot o ddolenni i bethau bach neis eraill.
Amser mynd am dro, dw i’nm eddwl.
Mae’n EP wych. Talent mowr.
Cytuno. Campwaith ydyw.
Iep. Licio ei steil. Wedi ei adio i fy “myspace friends”.
Gobeithio, gobeithio y clywn ni fe ar
cd hynod gyfrinachol ac amlgyfrannog y Siarc nesa’. Swnian a phlagio ongoing…