Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos ’ma, sy’n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd – prif mantais falle yw bod Democracy yn cynnwys pethau bach gwirion sy ddim yn dod dan y disgrifiad “blog fideo”. Pethau fel:
Hefyd, cei di fideos cerddorol (BitTorrents yw’r rhain, ond mae Democracy yn eu handlo nhw heb angen meddalwedd newydd – do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw BT o’n nhw tan nawr):
- The Thermals – How We Know – pync roc hen ei ail
- Aphex Twin – Come To Daddy – mwahaha!
- Bright Eyes – At The Bottom of Everything
Ac wrth gwrs, mae unrhywbeth sy’n dod â Morwynion Ffrengig i fy iMac yn werth arbrofi gyda fe am wythnos neu ddwy.
[Gol.] Diolch i Rhys am y ddolen i Treehugger TV, tanysgrifiad newydd i fi.
Efallai hoffet ti hwn gan Treehugger:
http://www.treehugger.com/files/2006/03/treehugger_tv_t_1.php
Yn defnyddio Google Video a youtube.com
Mae’n anhygol beth yw’r posibiliadau gyda’r rhain – darlledu ffilmiau fer Cymraeg am ddim?
Gwych, diolch Rhys. Doedd Treehugger ddim ar gael ar Democracy, ond mae’n bosibl ychwanegu dy sianeli dy hunan, felly dw i wedi wneud. Edrych ymlaen at ei weld.
Dwi’n cytuno fod hyn yn syniad sydd raid edrych mewn iddo o ran ffilmiau Cymraeg. Efallai fel rhan o wefan newydd Pictiwrs gallwn ni ddatblygu rhyw ffordd o wneud Pictiwrs ar dy Pod. Buasen ni mond yn gallu cynnwys ffilmiau anibynnol debyg gan yn aml dyw hawlfraint ddim yn cyfro darllediadau ar y we am rai sydd wedi derbyn arian gan bobol fel S4c neu Sgrin. Fel arall, dim ond cael y gwneuthurwyr i gytuno syd angen rili, a dwi’m yn meddwl y buasen nhw’n cwyno os gallai eu ffilmiau gael cynulleidfa ehangach.
MAe pobol wedi awgrymu i fi y buasai’n chwalu syniad Pictiwrsy ny ypyb gan y bydd pobol wei eu gweld o’r blaen, odn dwi’n anghytuno, dyw pobol ddim yn sdopio mynd i’r sinema oherwydd ipods ac mae profiad Pictiwrs yn y Pyb yn brofiad cymdeithasol yn ogystal a sinematig.
Wps, llithrodd llith allan!
Gyda llaw – *egsgliwsif* Pictiwrs Yn Pyb – Quins Caerfyrddin, 7.30yh, 23 Mawrth.
Byddwch yno neu edifarhewch! Iw hyrd ut hiyr ffyrst.
Bygar, dw i’n dysgu nos Iau. Wna i weld beth sy’n bosibl.
Gwers Gymraeg amgen efallai?