Dw i’n byw hanner mywyd ym Mac OS X, a dwy o’r rhaglenni sy wastad ar agor ar fy nesg yw’r Llyfr Cyfeiriadau ac iCal. Mae’r ddwy wedi dod, yn ara deg, i gymryd lle fy llyfr cyfeiriad a dyddiadur “go iawn”, gan ei fod yn hawdd iawn i drosglwyddo eu cynnwys i’r iPod, sy wastad gyda fi tu allan o’r tŷ.
Ond mae’n debyg mod i ddim yn cymryd digon o sylw o beth mae rhaglenni fel hyn yn gallu wneud.
Ddoe, sylweddolais i am y tro cyntaf, diolch i Merlin Mann, bod hi’n bosibl rhoi calendrau gwahanol iCal mewn “grwpiau”. O leia, o edrych trwy sylwadau ar flog Merlin, nid fi yw’r unig un i beidio gwybod hyn. Defnyddiol iawn.
Wedyn, y bore ’ma, dw i’n sylwi bod opsiwn yn y Llyfr Cyfeiriadau i Ddangos Map o unrhyw cyfeiriad. ⌘+clec ar y cyfeiriad a bant â chi.
Wedyn, sylweddolais i mod i ddim wedi newid fy nghyfeiriad fy hun yn y Llyfr Cyfeiriadau.
[Gol.] Peth arall – ddim wedi sylwi o’r blaen ei fod yn bosibl ychwanegu maesydd fel “spouse”, “children” ac yn y blaen i gerdyn yn y Llyfr Cyfeiriadau – mae hyn yn handi iawn i fi, sy byth yn cofio pethau fel hyn am ddysgwyr. Drueni bod dim modd cysylltu cardiau partneriaid – wedi dweud hynny, mae’n siwr o fod yn hollol bosibl, dim ond taw fi yw’r afalwr ola yn y byd i’w ddanganfod.