Eleni, bydd hi’n 25 mlynedd ers i Bobby Sands farw. Zmag: Bobby Sands, ymprydio a dysgu Gwyddeleg. Erthygl ddiddorol, ond efallai yn gorddweud tipyn bach yma:
He learned the importance of education and, particularly, of learning the Irish language. By using Irish to discuss strategy with his fellow prisoners under the noses of the prison guards, he made it a living language.
Dw i ddim yn gwybod digon amdano, yn amlwg. Ydy hyn yn deg i’w ddweud?
All rhywun awgrymu llyfrau i fi am adeg yr ymprydio? Dw i wedi darllen (blynyddoedd yn ôl) llyfr gan Tim Pat Coogan, ond dw i wedi ei golli ers hynny – a dw i wedi dysgu iaith fy ngwlad fy hun yn y cyfamser. A ddylwn i ail-ddarllen hwnna, neu oes ‘na rywbeth mwy diweddar byddai’n rhoi cyflwyniad i hanes diweddar Iwerddon i mi?
3 Comments
David Beresford, ‘Ten Men Dead’ – llyfr gwych.
O ran y dyfyniad o Zmag, be mae o’n gyfeirio ato ydi fod y Wyddeleg wedi dod yn iaith fyw (iaith cyfathrebu) yn y carchar. Sydd yn wir. Roeddynt yn siarad Gwyddeleg gyda’i gilydd.
Diolch Prys, wedi’i ordro o Amazon.
Oedd peth yn y Guardian ddoe am yr ymprydau, a sonwyd yn hwnna am Blanketmen – wyt ti’n nabod hwnna?
Beth am y llyfr ‘Bandit Country’. Hanes yr IRA yn Ne armagh. Dim yn uniongyrchol y gysylltiedig gyda Sands.Ond yn wych. Un or llyfrau hynny lle rwyt yn teimlo dy fod wedi bod ar daith go iawn wedi ei gwbwlhau.